Cynnal stoc ar lefelau angenrheidiol mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS17
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal stoc ar y lefelau angenrheidiol mewn gweithrediadau logisteg yn cynnwys, er enghraifft, lefelau caffael, lefelau casglu uniongyrchol a lefelau defnydd dyddiol. Mae’n cynnwys dilyn dulliau cylchdroi stoc, labelu a lleoli stoc. Mae hefyd yn cynnwys diweddaru cofnodion stoc.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi’r lefelau stoc angenrheidiol i gynnal y niferoedd cywir o fewn eich maes cyfrifoldeb mewn gweithrediadau logisteg
  2. cadarnhau lefelau stoc presennol yn eich maes cyfrifoldeb
  3. nodi eitemau wedi eu niweidio, diffygiol neu y mae eu dyddiad wedi dod i ben a’u symud i’r lleoliad angenrheidiol
  4. dilyn gweithdrefnau a dulliau y sefydliad ar gyfer cylchdroi stoc 
  5. defnyddio dulliau ymdrin diogel i ymdrin â stoc, yn unol â gofynion sefydliadol
  6. labelu stoc yn unol â gofynion sefydliadol
  7. lleoli stoc yn y lleoliad/au cywir ar gyfer defnydd yn y dyfodol
  8. nodi ac ymateb i broblemau yn cynnal stoc ar y lefelau angenrheidiol
  9. cynnal gwybodaeth gywir i ddiweddaru cofnodion adnewyddu stoc mewn gweithrediadau logisteg
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer cynnal stoc ar lefelau angenrheidiol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. pam y mae’n bwysig cynnal stoc ar y lefelau angenrheidiol mewn gweithrediadau logisteg
  2. pa mor aml y dylid gwirio lefel y stoc, a sut i nodi a oes angen adnewyddu stoc
  3. sut i adnabod a symud stoc wedi ei niweidio, diffygiol neu y mae ei ddyddiad wedi dod i ben
  4. y dulliau cylchdroi stoc ar gyfer y mathau o stoc sy’n cael eu storio gan y sefydliad
  5. y dulliau ymdrin ar gyfer y mathau o stoc sydd yn cael ei storio gan y sefydliad
  6. sut i labelu a lleoli stoc yn y lleoliad cywir
  7. y systemau rheoli stoc perthnasol a ddefnyddir yn y sefydliad
  8. y mathau o broblemau sydd yn codi wrth gynnal stoc a sut i ymateb i’r rhain
  9. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr
  10. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynnal stoc ar y lefelau gofynnol
  11. y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chynnal stoc ar y lefelau angenrheidiol 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Lefelau stoc: lefel gaffael, lefel dewis uniongyrchol, defnydd dyddiol

Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant

Cofnodion stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws

Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid 

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS17

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

lefelau stoc; cylchdroi stoc; ymdrin