Dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM96
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth am y galw am gyflenwadau a’r ffynonellau cyflenwi posibl. Mae hefyd yn cynnwys sefydlu meini prawf ar gyfer cyflenwyr, asesu’r ffactorau perthnasol, datrys problemau a darparu gwybodaeth.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau’r galw am gyflenwadau
  2. cael gwybodaeth am ffynonellau cyflenwi posibl
  3. dilyn gweithdrefnau sefydliadol i sefydlu meini prawf ar gyfer dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
  4. cadarnhau bod manylebau cyflenwi’n cael eu rhoi i ddarpar-gyflenwyr
  5. dewis cyflenwyr sy’n bodloni’r manylebau cyflenwi
  6. nodi ac asesu’r ffactorau a’r risgiau perthnasol a allai effeithio ar gaffael cyflenwadau
  7. nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau yn dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
  8. rhoi gwybodaeth am ddewis cyflenwyr i gydweithwyr
  9. cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol wrth ddewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
  10.  hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi, a’r ffordd yr ydym yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth i ddewis cyflenwyr
  4. cynnwys manylebau ar gyfer dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
  5. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion caffael
  6. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau gwerthuso cyflenwyr 
  7. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd 
  8. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
  9. sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw faterion yn dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
  10. y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
  11. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
  12. eich cyfrifoldebau chi a’r sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM96

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

dewis; cyflenwyr; cadwyn gyflenwi