Rheoli prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM91
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth, egluro nodau, amcanion a chynlluniau, dyrannu tasgau prosiect a chefnogi cydweithwyr. Mae hefyd yn cynnwys monitro llwyddiant y prosiect, rheoli costau, darparu adroddiadau a datrys unrhyw broblemau.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael gwybodaeth am ofynion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  2. cadarnhau nodau, amcanion a thasgau’r prosiect
  3. dyrannu tasgau’r prosiect i chi eich hun a’ch cydweithwyr
  4. cynorthwyo cydweithwyr i gwblhau tasgau’r prosiect 
  5. rheoli’r prosiect a monitro cyflawni amcanion
  6. rheoli costau a graddfeydd amser y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  7. rhoi gwybodaeth i randdeiliaid allweddol ar gynnydd y prosiect, fel y bo angen
  8. nodi a datrys unrhyw broblemau yn gweithredu cynllun y prosiect
  9. cyflwyno adroddiadau ar ganlyniadau’r prosiect, fel y bo angen
  10. cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol, wrth gynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  11. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau’r gadwyn gyflenwi
  4. sut i reoli prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  5. dulliau a gweithdrefnau rheoli prosiect a ddefnyddir gan eich sefydliad
  6. y damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli newid
  7. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol sydd ar gael i gynorthwyo gyda rheoli prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  8. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda rheoli prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi 
  9. y dulliau a gweithdrefnau rheoli prosiect a gweinyddu
  10. y gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi
  11. eich cyfrifoldeb chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy, wrth gynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Gallai Cymorth er enghraifft gynnwys: cynghori cydweithwyr, cyfrannu at weithgareddau, egluro gofynion prosiect a goruchwylio neu reoli cydweithwyr i gwblhau tasgau prosiect

Prosiect: gweithgaredd wedi ei gynllunio, gydag amcanion, llinell amser ac adnoddau y cytunwyd arnynt wedi eu bwriadu i gyflawni canlyniad y cytunwyd arno


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM91

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

rheoli; prosiectau; datblygu; cadwyn gyflenwi