Dadansoddi gwybodaeth am berfformiad y gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM87
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dadansoddi gwybodaeth am berfformiad y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cydgrynhoi a pharatoi gwybodaeth, nodi ffactorau hanfodol a rhoi’r canlyniadau i gydweithwyr.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. egluro diben y dadansoddiad
  2. cael gwybodaeth am berfformiad y gadwyn gyflenwi
  3. cydgrynhoi a pharatoi’r wybodaeth ar gyfer ei dadansoddi
  4. dadansoddi’r wybodaeth am y gadwyn gyflenwi 
  5. defnyddio dulliau a thechnegau dadansoddi sy’n berthnasol i’r wybodaeth 
  6. nodi ffactorau hanfodol sy’n effeithio ar berfformiad y gadwyn gyflenwi 
  7. nodi unrhyw faterion gyda’r gadwyn gyflenwi sydd angen gweithredu ar unwaith
  8. rhoi canlyniadau’r dadansoddiad i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar y fformat sydd yn ofynnol gan y sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
  4. sut i gael gwybodaeth am berfformiad y gadwyn gyflenwi
  5. y dulliau a’r technegau dadansoddi sy’n berthnasol i’r wybodaeth
  6. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
  7. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
  8. sut i nodi ffactorau hanfodol sy’n effeithio ar berfformiad y gadwyn gyflenwi 
  9. y mathau o faterion gyda’r gadwyn gyflenwi sydd angen gweithredu ar unwaith a sut i’w nodi
  10. sut i gyflwyno canlyniadau’r dadansoddiad i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar y fformat sy’n ofynnol gan y sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr a Rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, mewnol ac allanol

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM87

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

dadansoddi; gwybodaeth; cadwyn gyflenwi; perfformiad