Cynllunio dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM83
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys adolygu gofynion dosbarthu presennol ac yn y dyfodol a datrys unrhyw broblemau. Mae hefyd yn cynnwys adolygu buddion a risgiau dosbarthu er mwyn llywio’r broses gynllunio.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr y gadwyn gyflenwi. Gallai hyn, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg nwyddau neu reoli cludiant.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi gofynion dosbarthu presennol nwyddau yn y gadwyn gyflenwi wrth gynllunio i ddyrannu nwyddau
  2. adolygu’r ffordd y caiff nwyddau presennol eu dosbarthu yn y gadwyn gyflenwi, i gynorthwyo gyda chynllunio i ddyrannu nwyddau
  3. nodi gofynion dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi yn y dyfodol
  4. cynllunio dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  5. cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr er mwyn gweithredu’r cynllun
  6. nodi a datrys unrhyw broblemau wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  7. adolygu’r buddion a’r risgiau i ddosbarthu nwyddau trwy’r gadwyn gyflenwi
  8. adolygu gweithrediad ac effeithiolrwydd y cynllun 
  9. cynllunio’r gwaith o sefydlu unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol yn y gadwyn gyflenwi
  10. sefydlu dulliau ar gyfer gwella dosbarthiad nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  11. cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol wrth gynllunio i ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  12. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a cynaliadwyedd yn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gynllunio i ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
  3. y dulliau a’r gweithdrefnau dosbarthu ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  4. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer dosbarthu nwyddau
  5. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg 
  6. damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
  7. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio i ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  8. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio’r gwaith o ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  9. y mathau gwahanol o ddulliau a gweithdrefnau ar gyfer cynllunio i ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  10. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
  11. dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid ar gyfer cynllunio dosbarthu
  12. y gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  13. sut i gynllunio’r mesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd eu hangen gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu yn y gadwyn gyflenwi
  14. eich cyfrifoldeb chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Rhanddeiliaid: sefydliadau neu unigolion mewnol ac allanol sydd â budd yn y sefydliad

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM83

Galwedigaethau Perthnasol

Rheoli busnes, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

cynllunio; dosbarthu; nwyddau; cadwyn gyflenwi