Cynllunio storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM82
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys nodi gofynion, adolygu’r ffordd y caiff nwyddau eu storio a datrys problemau. Mae hefyd yn cynnwys adolygu buddion, dewis a chynllunio dulliau ar gyfer gwella storio, a chael ymrwymiad gan randdeiliaid a chydweithwyr.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. adolygu’r gofynion storio presennol a’r risgiau o ran storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi, i gynorthwyo gyda chynllunio 
  2. nodi gofynion storio yn y dyfodol ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  3. cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr i weithredu’r cynllun
  4. nodi a datrys unrhyw broblemau yn storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  5. adolygu’r buddion a’r risgiau i storio nwyddau ar draws y gadwyn gyflenwi
  6. cynllunio ar gyfer sefydlu unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol sydd yn cael eu storio
  7. sefydlu dulliau ar gyfer gwella storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  8. cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol wrth gynllunio ar gyfer storio nwyddau y y gadwyn gyflenwi  
  9. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gynllunio ar gyfer storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
  3. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
  4. y mathau o ddulliau a gofynion storio yn y gadwyn gyflenwi
  5. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer storio nwyddau
  6. damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
  7. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio a storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  8. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  9. y dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer cynllunio ar gyfer storio nwyddau yn y  gadwyn gyflenwi
  10. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion yn y gadwyn gyflenwi
  11. dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid i’w defnyddio i gynllunio a storio nwyddau
  12. y gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  13. sut i gynllunio’r mesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu storio
  14. eich cyfrifoldeb chi a’r sefydliad am ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth weithio gyda nwyddau sydd yn cael eu storio  


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Rhanddeiliaid: sefydliadau neu unigolion mewnol ac allanol sydd â budd yn y sefydliad

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM82

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

cynllun; storio; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi