Sefydlu a monitro prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM79
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â sefydlu a monitro prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys penderfynu ar nodau ac amcanion y prosiect a’r ffyrdd y bydd y prosiect yn cael ei reoli. Bydd hefyd yn cynnwys costio’r prosiect, cefnogi cydweithwyr, monitro cyflawniadau a datrys rhwystrau rhag cyflawni.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. ymchwilio i brosiectau posibl i gyflwyno newidiadau a gwelliannau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  2. cytuno ar nodau ac amcanion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  3. sefydlu’r ffordd y dylai’r prosiect gael ei reoli
  4. sefydlu costau cynnal y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  5. comisiynu’r prosiect yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. sefydlu rheolwr prosiect
  7. cynorthwyo cydweithwyr i gyflawni nodau ac amcanion y prosiect
  8. monitro cyflawniadau nodau ac amcanion y prosiect
  9. nodi a monitro unrhyw heriau yn cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
  10. datrys unrhyw rwystrau yn cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
  11. cyflwyno adroddiadau ar ganlyniadau’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  12. cadarnhau bod y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol
  13. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu’r ffactorau hyn wrth sefydlu a monitro’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. sut i sefydlu nodau ac amcanion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  3. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  4. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol ar gyfer sefydlu costau ar gyfer prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  5. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cynllunio ar gyfer prosiectau
  6. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau rheoli risg
  7. sut i nodi a monitro unrhyw heriau yn cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
  8. sut i ddatrys unrhyw rwystrau yn cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
  9. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer comisiynu prosiectau
  10. y dulliau o fonitro cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
  11. dulliau cyflwyno ac adrodd y sefydliad ar gyfer cofnodi canlyniadau’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  12. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd eu hangen ar gyfer sefydlu a monitro prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  13. eich cyfrifoldeb chi ac un y sefydliad ar gyfer diogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth sefydlu a monitro prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Prosiect: gweithgaredd wedi ei gynllunio, gydag amcanion, llinell amser ac adnoddau y cytunwyd arnynt, gyda’r bwriad o gyflawni canlyniad y cytunwyd arno


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM79

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

comisiynu; prosiectau; datblygu; cadwyn gyflenwi