Gwella perfformiad y gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM78
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â gwella perfformiad y gadwyn gyflenwi. Mae’n ymwneud ag adolygu perfformiad presennol i nodi gwelliannau a phenderfynu ar ffyrdd o’u cyflwyno. Mae’n cynnwys adolygu canlyniadau gwelliannau a datrys unrhyw broblemau cysylltiedig.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. adolygu perfformiad presennol y gadwyn gyflenwi
  2. nodi gwelliannau i berfformiad y gadwyn gyflenwi
  3. cytuno ar ddulliau i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi 
  4. cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr er mwyn gweithredu gwelliannau
  5. cyflwyno gwelliannau i berfformiad y gadwyn gyflenwi
  6. adolygu effeithiau cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
  7. nodi a datrys unrhyw faterion yn ymwneud â chyflwyno gwelliannau
  8. cadarnhau bod gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol
  9. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu’r ffactorau hyn wrth gyflwyno gwelliannau i berfformiad y gadwyn gyflenwi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
  3. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd a ddefnyddir i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
  4. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli newid a ddefnyddir i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
  5. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi buddiannau cost
  6. y gweithdrefnau sefydliadol i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
  7. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cynllunio a ddefnyddir i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
  8. y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan y sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
  9. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid a ddefnyddir gan eich sefydliad
  10.  y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd eu hangen ar gyfer monitro dosbarthu nwyddau
  11. eich cyfrifoldebau chi a rhai’r sefydliad ar gyfer diogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy, wrth amserlennu dosbarthu nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Rhanddeiliaid: pob sefydliad neu unigolyn sydd â budd yn y sefydliad

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM78

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

gwella; perfformiad; cadwyn gyflenwi