Datblygu a gweithredu strategaeth cadwyn gyflenwi ar gyfer y sefydliad

URN: SFLSCM76
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a gweithredu strategaeth cadwyn gyflenwi ar gyfer y sefydliad. Mae’n cynnwys nodi amcanion ac adolygu’r gadwyn gyflenwi a’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r strategaeth. Mae’n cynnwys nodi rhwystrau, cael ymrwymiad y rhanddeiliaid, a defnyddio dulliau cyfathrebu priodol.  

Mae cyflenwadau’n unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau amcanion y sefydliad a’i strategaethau ar gyfer eu cyflawni
  2. adolygu strategaeth bresennol y gadwyn gyflenwi a sut mae’n helpu i gyflawni amcanion y sefydliad
  3. adolygu’r holl ffactorau sy’n berthnasol i ddatblygu strategaeth y gadwyn gyflenwi
  4. nodi cyfleoedd fydd yn ychwanegu gwerth i’r sefydliad
  5. gweithredu strategaeth cadwyn gyflenwi fydd yn galluogi’r sefydliad i fod yn fwy effeithiol yn cyflawni ei amcanion
  6. nodi rhwystrau i ddatblygiad strategaeth y gadwyn gyflenwi ac archwilio dulliau ar gyfer eu goresgyn
  7. darparu rhesymeg dros strategaeth y gadwyn gyflenwi
  8. cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr i weithredu strategaeth y gadwyn gyflenwi
  9. darparu gwybodaeth i’r sefydliad ar strategaeth y gadwyn gyflenwi  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer rheoli cadwyn gyflenwi
  4. sut i ddatblygu a gweithredu strategaeth cadwyn gyflenwi ar gyfer eich sefydliad
  5. pam y mae’n bwysig cymharu gallu cyflenwyr lleol, rhanbarthol a byd-eang 
  6. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
  7. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli newid
  8. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi buddiannau cost
  9. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol
  10. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
  11. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg
  12. prif heriau cadwyni cyflenwi a’r ffyrdd o leddfu’r heriau hyn
  13. mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
  14. dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid a ddefnyddir gan eich sefydliad
  15. sut i gael ymrwymiad gan randdeiliaid a chydweithwyr i weithredu strategaeth cadwyn gyflenwi

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Rhanddeiliaid: pob sefydliad neu unigolyn sydd â budd yn llwyddiant y sefydliad

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Strategaeth cadwyn gyflenwi: dylunio a chynllunio’r gadwyn “o’r dechrau i’r diwedd” i gynyddu’r potensial o fodloni galw gan gwsmeriaid ar y gost isaf posibl


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM76

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

datblygu; cadwyn gyflenwi; strategaeth