Monitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd

URN: SFLSCM131
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd. Mae’n cynnwys cydgrynhoi a dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud â llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd. Mae hefyd yn cynnwys nodi problemau, rhoi canlyniadau’r dadansoddiadau, a gwneud argymhellion am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael y wybodaeth berthnasol am y nwyddau sydd yn cael eu dychwelyd er mwyn monitro eu cynnydd
  2. cyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol trwy gydol y broses fonitro
  3. cydgrynhoi a pharatoi gwybodaeth am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd ar gyfer dadansoddi
  4. dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  5. nodi ac ymdrin â phroblemau gyda llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  6. rhoi canlyniadau’r monitro i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
  7. argymell opsiynau ar gyfer gwella llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  8. cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer monitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  9. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth amserlennu dosbarthu nwyddau 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â dychwelyd nwyddau
  2. y math o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi a monitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  4. sut i fonitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  5. sut i gael a dadansoddi gwybodaeth am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  6. y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwerthuso gwybodaeth am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  7. prosesau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer dychwelyd nwyddau
  8. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
  9. sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau sydd yn gallu digwydd gyda llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
  10. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
  11. y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
  12. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer monitro dosbarthu nwyddau
  13. eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth amserlennu dosbarthu nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM131

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

monitro; nwyddau sy’n cael eu dychwelyd; cadwyn gyflenwi