Gweinyddu contractau
URN: SFLSCM120
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweinyddu contractau. Mae’n cynnwys cael awdurdodiad, cyfarwyddiadau a gwybodaeth wrth weinyddu contractau. Mae hefyd yn cynnwys darparu dogfennau, nodi problemau, cyfnewid gwbodaeth a chadarnhau bod contractau yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael yr awdurdodiad angenrheidiol i weinyddu’r contract
- cael ac egluro gwybodaeth gan gydweithwyr i gefnogi trafod a gweinyddu’r contract
- darparu’r dogfennau a nodir yn y contract
- dadansoddi gwybodaeth am ganlyniadau contract
- nodi ac ymdrin â phroblemau yn ymwneud â chynnwys a chanlyniadau’r contract
- cyfnewid gwybodaeth am gynnwys a chanlyniadau’r contract
- cadarnhau bod y contract yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â gweinyddu contractau
- damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
- sut i weinyddu contractau ar gyfer eich sefydliad
- dulliau a gweithdrefnau gweinyddu contract eich sefydliad
- y damcaniaethau, modelau ac arferion caffael
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol ar gyfer gweinyddu contractau
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan eich sefydliad i weinyddu contractau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Contractau: fel arfer yn cynnwys cytundebau sydd yn rhwymo mewn cyfraith, ond gallant fod yn gytundebau anffurfiol; gellir gorfodi’r ddau trwy gyfraith sifil
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dulliau cyfathrebu: llafar, ysgrifenedig, electronig
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLSCM120
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
gweinyddu; contractau; cadwyn gyflenwi