Monitro cyflawni tasgau prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM116
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro cyflawni tasgau prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys gwirio tasgau’r prosiect yn erbyn gwybodaeth, darparu gwybodaeth a nodi problemau yn cyflwyno prosiectau.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael gwybodaeth am ofynion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  2. cadarnhau tasgau’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  3. cael gwybodaeth gan gydweithwyr am gyflawni tasgau’r prosiect
  4. monitro cyflawni tasgau’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  5. cydgrynhoi a gwerthuso’r wybodaeth a gasglwyd wrth fonitro cyflawni tasgau’r prosiect 
  6. rhoi gwybodaeth i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar gynnydd tasgau’r prosiect
  7. defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd wrth fonitro cyflawni tasgau’r prosiect i nodi unrhyw broblemau’n cwblhau’r prosiect
  8. gweithredu i fynd i’r afael â phroblemau’n cwblhau tasgau’r prosiect


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â chyflawni tasgau prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi
  4. sut i fonitro cyflawni tasgau prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  5. y mathau o brosesau a thasgau prosiect a wneir gan eich sefydliad i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
  6. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau rheoli a gweinyddu prosiect a ddefnyddir gan eich sefydliad i gynorthwyo’r gwaith o fonitro tasgau prosiect
  7. sut i gydgrynhoi, gwerthuso a chyflwyno’r canfyddiadau a gesglir wrth fonitro tasgau prosiect
  8. y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
  9. y mathau o faterion a allai rwystro tasgau prosiect rhag cael eu cwblhau a’r camau i’w cymryd i ddatrys y problemau hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, mewnol ac allanol

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Prosiect: gweithgaredd wedi ei gynllunio, gydag amcanion, llinell amser ac adnoddau y cytunwyd arnynt sydd â’r bwriad o gyflawni canlyniad y cytunir arno


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM116

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

monitro; cyflawniad; prosiect; tasgau; cadwyn gyflenwi