Cyflwyno a monitro gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM115
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflwyno a monitro gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth a chyflwyno gwelliannau yn unol â chynllun, polisïau a gweithdrefnau gweithredu eich sefydliad. Mae hefyd yn cynnwys cydgrynhoi a dadansoddi data, nodi problemau a rhoi adborth.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael gwybodaeth am gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
  2. cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi i fodloni gofynion y cynllun gweithredu
  3. cydymffurfio â gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
  4. monitro’r effaith y mae cyflwyno gwelliannau’n ei gael ar y gadwyn gyflenwi
  5. cydgrynhoi a pharatoi data ar effaith cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
  6. dadansoddi data ar effaith gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
  7. rhoi adborth i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi 
  8. cadarnhau bod cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol
  9. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am y gadwyn gyflenwi
  4. sut i gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi o fewn eich maes cyfrifoldeb  
  5. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli newid a ddefnyddir i gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
  6. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cynllunio ar gyfer rheoli cadwyn gyflenwi
  7. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
  8. sut i fonitro cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
  9. y dulliau a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer casglu a dadansoddi data am effeith cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
  10. y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad 
  11. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi
  12. eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM115

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

gwella; gwelliannau; cadwyn gyflenwi