Dewis dulliau o fewnforio nwyddau

URN: SFLSCM112
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis dulliau o fewnforio nwyddau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth yn ymwneud â’r nwyddau sydd yn cael eu mewnforio a dulliau mewnforio. Mae hefyd yn cynnwys nodi dulliau mewnforio i fodloni manylebau, asesu buddion a risgiau, ymdrin â phroblemau a rhoi canlyniadau gwerthusiadau sydd yn cydymffurfio â gofynion.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau gwybodaeth archebu a mewnforio am y nwyddau sydd yn cael eu mewnforio
  2. cael gwybodaeth am y dulliau mewnforio sydd ar gael
  3. gwerthuso addasrwydd y dulliau mewnforio
  4. nodi a dewis y dulliau mewnforio sy’n bodloni manyleb y nwyddau, rhanddeiliaid allweddol ac unrhyw ofynion eraill
  5. nodi ac asesu buddion a risgiau defnyddio’r dulliau mewnforio a ddewiswyd
  6. nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol sydd yn cael eu mewnforio
  7. nodi ac ymdrin â phroblemau gyda’r dulliau mewnforio
  8. rhoi canlyniadau’r detholiad i gydweithwyr
  9. cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol ar gyfer y dulliau mewnforio
  10. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth fewnforio nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â mewnforio nwyddau
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi a sut i ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth i ddewis dulliau mewnforio
  4. sut i ddewis dulliau mewnforio nwyddau
  5. y damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad a ddefnyddir gan eich sefydliad i gynorthwyo gyda mewnforio nwyddau
  6. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda mewnforio nwyddau
  7. sut i nodi ac ymdrin â phroblemau gyda’r dull mewnforio
  8. yr Incoterms amrywiol a’u goblygiadau
  9. sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol gan y nwyddau sydd yn cael eu mewnforio
  10. eich cyfrifoldeb chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth fewnforio nwyddau
  11. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol ar gyfer mewnforio nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth. Gallai manylebau fod ar gyfer y math o farchnad, y lleoliad, y math o nwyddau neu ofynion cwsmer. 

Incoterms:  diffinio’r parti fydd yn talu costau cludo nwyddau. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall fod mwy nag un dull unigol o gludo yn gysylltiedig. Defnyddir Incoterms i ddiffinio pa barti sy’n talu am ba ddull o gludo. Mae’n cynnwys: Talu Cludiant ac yswiriant i, Cludwr Am Ddim, Wedi ei Ddosbarthu i’r Man Dadlwytho, Cost a Chludiant, Cost, Yswiriant a Chludiant ac ati. 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM112

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

mewnforio; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi