Amserlennu cludo nwyddau

URN: SFLSCM110
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud ag amserlennu cludo nwyddau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth mewn perthynas â’r nwyddau sydd yn cael eu cludo. Mae hefyd yn cynnwys amserlennu cludiant i fodloni gofynion, asesu ffactorau a risgiau, ymdrin â phroblemau a rhoi canlyniadau gwerthusiadau sydd yn cydymffurfio â gofynion.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau’r nwyddau sydd yn cael eu hamserlennu i gael eu cludo
  2. cael gwybodaeth am y nwyddau y mae angen eu cludo
  3. amserlennu cludo nwyddau i fodloni gofynion y gadwyn gyflenwi 
  4. cadarnhau yr amserlen cludo nwyddau gyda chydweithwyr
  5. nodi ac adolygu’r ffactorau a’r risgiau perthnasol a allai effeithio ar yr amserlen gludo
  6. nodi ac ymdrin â phroblemau gyda’r amserlen gludo
  7. nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu cludo
  8. hysbysu’r holl gydweithwyr a’r rhanddeiliaid allweddol perthnasol am yr amserlen
  9. cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sy’n ofynnol ar gyfer amserlennu cludo nwyddau
  10. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth amserlennu dosbarthu nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â chludo nwyddau
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
  4. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi ac amserlennu a dosbarthu nwyddau
  5. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cludo
  6. y dulliau a ddefnyddir i amserlennu cludo nwyddau
  7. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cynllunio ar gyfer cludo nwyddau
  8. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gydag amserlennu cludo nwyddau
  9. y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
  10. sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gydag amserlennu cludo nwyddau
  11. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud ag amserlennu dosbarthu nwyddau
  12. sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd eu hangen gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
  13. eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth amserlennu dosbarthu nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Trafnidiaeth: symud nwyddau neu adnoddau yn fewnol neu’n allanol o fewn y sefydliad, yn genedlaethol neu rhwng ffiniau rhyngwladol

Amserlen: cynllun neu amserlen o gyfres o ddigwyddiadau neu weithgareddau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM110

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

amserlen; cludo; nwyddau; cadwyn gyflenwi