Dewis dulliau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau
URN: SFLSCM109
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis dulliau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth yn ymwneud â’r nwyddau sydd yn cael eu cludo a dulliau trafnidiaeth sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnwys dewis dulliau i fodloni manylebau, asesu buddion a risgiau, ymdrin â phroblemau a rhoi canlyniadau gwerthusiadau sydd yn cydymffurfio â gofynion.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r wybodaeth am y nwyddau sydd yn cael eu cludo
- cael gwybodaeth am y dulliau trafnidiaeth sydd ar gael ar gyfer y nwyddau
- gwerthuso’r wybodaeth am addasrwydd y dulliau trafnidiaeth
- dewis y dulliau trafnidiaeth sy’n bodloni manylebau’r nwyddau, y rhanddeiliaid allweddol ac unrhyw ofynion eraill
- asesu buddion a risgiau defnyddio’r dulliau trafnidiaeth a ddewiswyd
- nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol sydd yn cael eu cludo
- nodi ac ymdrin â phroblemau gyda’r dulliau trafnidiaeth
- rhoi canlyniadau’r detholiad i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer dewis dulliau trafnidiaeth
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r dulliau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi a’r dulliau trafnidiaeth sydd ar gael ar gyfer symud nwyddau
- y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer dewis dulliau trafnidiaeth addas ar gyfer y nwyddau
- dulliau a gweithdrefnau trafnidiaeth eich sefydliad
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda dewis dulliau trafnidiaeth ar gyfer y nwyddau
- sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gyda dulliau dosbarthu
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid, cwmnïau trafnidiaeth
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Trafnidiaeth: symud nwyddau neu adnoddau yn fewnol neu’n allanol o fewn y sefydliad, yn genedlaethol neu rhwng ffiniau rhyngwladol
Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth. Gallai manylebau fod yn fath o farchnad, y lleoliad, y math o nwyddau neu ofynion cwsmer.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM109
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
trafnidiaeth; nwyddau; cadwyn gyflenwi