Dewis dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau

URN: SFLSCM106
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth yn ymwneud â’r nwyddau a’r dulliau dosbarthu sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnwys dewis dulliau i fodloni manylebau, asesu buddion a risgiau, ymdrin â phroblemau a rhoi canlyniadau gwerthusiadau sydd yn cydymffurfio â gofynion.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwirio’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
  2. cael gwybodaeth am y dulliau dosbarthu sydd ar gael ar gyfer y nwyddau
  3. gwerthuso gwybodaeth am addasrwydd y dulliau dosbarthu
  4. dewis y dulliau dosbarthu sydd yn gallu bodloni manylebau’r nwyddau, y rhanddeiliaid allweddol ac unrhyw ofynion eraill
  5. asesu buddion a risgiau defnyddio’r dulliau dosbarthu a ddewiswyd
  6. nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol sydd yn cael eu dosbarthu
  7. nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gyda dulliau dosbarthu
  8. rhoi canlyniadau’r dewis i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
  9. cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol ar gyfer y dulliau dosbarthu a ddewiswyd
  10. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau a dulliau dosbarthu cadwyn gyflenwi sydd ar gael ar gyfer symud nwyddau
  4. y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer dewis dulliau dosbarthu addas ar gyfer nwyddau
  5. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
  6. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda dewis dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau
  7. sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gyda dulliau dosbarthu 
  8. y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
  9. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  10. sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
  11. eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol 

Manylebau: set o ofynion i’w bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth. Gallai’r manylebau fod ar gyfer y math o farchnad, y lleoliad, y math o nwyddau neu ofynion y cwsmer.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM106

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

dosbarthu; nwyddau; cadwyn gyflenwi