Nodi gofynion ar gyfer storio nwyddau

URN: SFLSCM102
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi gofynion ar gyfer storio nwyddau. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth, cadarnhau argaeledd adnoddau a darparu manylebau ar gyfer lleoliadau storio. Mae hefyd yn cynnwys asesu’r holl ffactorau perthnasol, hysbysu cydweithwyr a chadarnhau bod manylebau’n cydymffurfio â gofynion.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael y wybodaeth berthnasol ar y nwyddau sy’n cael eu storio
  2. cadarnhau argaeledd adnoddau sydd eu hangen ar gyfer storio nwyddau
  3. darparu manylebau ar gyfer lleoliadau a chyfleusterau storio sydd eu hangen ar gyfer storio nwyddau
  4. nodi ac asesu’r ffactorau a’r risgiau perthnasol a allai effeithio ar storio nwyddau
  5. hysbysu’r holl gydweithwyr perthnasol am y manylebau storio
  6. cadarnhau bod yr holl gydweithwyr perthnasol yn cael eu hyfforddi ar ofynion y nwyddau sydd yn cael eu storio
  7. cadarnhau bod yr holl systemau a ddefnyddir gan y sefydliad i storio a monitro nwyddau yn eu lle
  8. cydymffurfio â’r holl ofynion perthnasol ar gyfer y manylebau storio
  9. cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sy’n ofynnol ar gyfer y dulliau dosbarthu dethol
  10. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis dulliau dosbarthu ar gyfer nwyddau 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
  4. y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer nodi’r gofynion ar gyfer storio nwyddau
  5. y mathau o adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer storio nwyddau gwahanol
  6. y ffactorau a’r risgiau sy’n effeithio ar storio nwyddau a sut i nodi ac asesu’r rhain
  7. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer storio nwyddau
  8. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
  9. y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
  10. y mathau o systemau a ddefnyddir gan y sefydliad i storio a monitro nwyddau
  11. pwysigrwydd cadarnhau bod yr holl gydweithwyr perthnasol wedi eu hyfforddi ar ofynion y nwyddau sydd yn cael eu storio
  12. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  13. sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd eu hangen gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
  14. eich cyfrifoldeb chi a’r sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth

Ffactorau: yn cynnwys rhai amgylcheddol, daearyddol, strwythurol

Lleoliadau a chyfleusterau storio: dros dro neu barhaol, amgylchynol, wedi oeri, sych, awyr agored, dan do, wedi ei awyru, mynediad gwahanol a chyfyngedig. Gallai’r manylebau fod o’r math o farchnad, y lleoliad, y math o nwyddau neu ofynion y cwsmer.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM102

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

storio; nwyddau; cadwyn gyflenwi