Nodi, hyrwyddo a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant

URN: SFLOLC6
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi, hyrwyddo a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant. Mae’n cynnwys bod yn gyfrifol am nodi ble mae cydymffurfio presennol yn gweithio yn y sefydliad, nodi diffyg cydymffurfio a chynnal systemau cofnodi mewn perthynas â chydymffurfio. Mae’r rôl yn cynnwys gweithio a chytuno ar weithredoedd gyda’r rhanddeiliaid perthnasol a darparu adroddiadau rheolaidd.

Mae’r safon hon ar gyfer y Gweithredwr, sef deiliad y drwydded, a’r Rheolwr Trafnidiaeth mewnol neu allanol, sydd yn gyfrifol am gydymffurfio â thrwydded y gweithredwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a rhoi manylion am y meysydd a’r gweithgareddau lle mae cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr cludiant yn cael ei fodloni ar gyfer eich sefydliad trafnidiaeth cludiant

  2. nodi a rhoi manylion y digwyddiadau o ddiffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant

  3. cadarnhau bod y dogfennau ategol perthnasol ar gyfer diffyg cydymffurfio wedi eu cwblhau, yn unol â’r gofynion rheoliadol perthnasol
  4. trafod a chytuno gyda’r rhanddeiliaid perthnasol, ar y camau cywiro angenrheidiol a’r raddfa amser ar gyfer cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  5. trafod a chytuno gyda’r rhanddeiliaid ar y camau ataliol angenrheidiol i leihau achosion o ddiffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  6. cadarnhau bod camau ataliol a chywiro yn rhan o’r system archwilio cydymffurfio
  7. datblygu a lledaenu adroddiadau rheolaidd y rhanddeiliaid i hyrwyddo cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
  8. hysbysu cydweithwyr sut i nodi a monitro digwyddiadau o ddiffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  9. hysbysu a hyrwyddo i randdeiliaid y meysydd, y gweithgareddau a’r ffiniau angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  10. profi arferion gweithredol eich sefydliad trafnidiaeth cludiant a monitro’r wybodaeth er mwyn hyrwyddo cydymffurfio mewnol
  11. nodi risgiau a goblygiadau diffyg cydymffurfio i’ch sefydliad trafnidiaeth cludiant

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y meysydd a’r gweithgareddau sydd wedi eu cynnwys gan systemau cydymffurfio mewnol y sefydliad ar gyfer trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  2. y dulliau a faint o wybodaeth sydd ei hangen i nodi a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  3. sut i nodi a chofnodi cydymffurfio a diffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  4. sut i nodi’r rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer trafod a chytuno ar gamau cywiro
  5. y mathau o gamau cywiro y gellir eu cymryd, a’r graddfeydd amser sefydliadol a argymhellir    
  6. y mathau o gamau ataliol y gellir eu cymryd, a’r graddfeydd sefydliadol a argymhellir
  7. sut i lunio adroddiadau a hyrwyddo a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  8. pwysigrwydd cynghori’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid perthnasol er mwyn nodi, hyrwyddo a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
  9. y dulliau perthnasol o brofi arferion gweithredol fydd yn hyrwyddo cydymffurfio mewnol
  10. yr hyn y mae diffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant yn ei olygu ar gyfer eich sefydliad trafnidiaeth cludiant

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Arferion gweithredol:
oriau gyrwyr, gwiriadau trwydded gyrrwr, rheoliadau amser gwaith, gweithdrefnau tacograff, cydymffurfiad gweithredwr (system archwilio), addasrwydd ar gyfer y ffordd, diffygion a chywiriadau cerbyd, cynnal cofnodion hyfforddiant, dogfennau cyfreithiol, Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC) a sgôr OCRS, addasrwydd canolfan weithredu, cyfleusterau glanhau a systemau gwaith diogel


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLOLC6

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

4134

Geiriau Allweddol

cydymffurfio; arferion gweithredol; diffyg cydymffurfio