Dosbarthu post

URN: SFLMS151
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dosbarthu’r post i gwsmeriaid, ac mae’n cynnwys dosbarthu mewnol ac allanol. Bydd hyn yn cynnwys cadarnhau’r amserlenni dosbarthu, ac yna didoli a phentyrru’r post er mwyn iddo allu cael ei ddosbarthu yn y drefn fwyaf addas. Dylech weithredu i ddiogelu’r post wrth ei ddosbarthu. Bydd hyn hefyd yn cynnwys nodi unrhyw broblemau gyda’r dosbarthu, a chymryd y camau priodol.

Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei hanelu at pob gweithredwr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol, a dilyn gweithdrefnau sefydliadol, bob amser, wrth ddosbarthu post
  2. casglu post o’r cynwysyddion cywir
  3. ymdrin â phost yn ddiogel i leihau’r risg o anaf i chi eich hun, staff eraill, cwsmeriaid, neu niwed i’r post
  4. didoli a phentyrru’r post i drefn ofynnol ar gyfer y llwybr dosbarthu
  5. nodi eitemau post sydd angen dosbarthu arbennig at y cwsmer 
  6. diogelu’r post wrth ddosbarthu, yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
  7. cadarnhau manylion y llwybr dosbarthu, yr amserlen, a’r mathau o bost sydd yn cael eu dosbarthu
  8. dosbarthu’r post yn unol â’r mathau o bost a’r amserlen ddosbarthu y cytunwyd arni
  9. gweithredu cyfarpar a mecanweithiau yn y mannau dosbarthu yn gywir
  10. nodi ac ymateb i unrhyw broblemau dosbarthu gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydliadol, yn cynnwys dychwelyd eitemau post heb eu dosbarthu
  11. cyfathrebu gyda staff eraill a chwsmeriaid i roi unrhyw wybodaeth iddynt yn ymwneud â’r gwasanaeth dosbarthu neu’r amserlen
  12. cofnodi dosbarthu post yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn unrhyw reoliadau diogeledd data a gwybodaeth yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu, yn cynnwys cael llofnodion cwsmeriaid lle bo angen 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a sefydliadol wrth ddosbarthu post, a’ch cyfrifoldebau chi drosoch chi eich hun ac eraill
  2. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer dosbarthu post
  3. yr amserlenni dosbarthu, yn cynnwys llwybrau ac amserau
  4. y mathau o eitemau post sydd angen eu dosbarthu, yn cynnwys y rheiny â chyfarwyddiadau dosbarthu arbennig
  5. lleoliadau cynwysyddion gyda phost yn barod i’w ddosbarthu
  6. y risgiau ymdrin sydd yn gysylltiedig â dosbarthu mathau gwahanol o bost
  7. llwybrau a threfn dosbarthu
  8. y mathau o ofynion arbennig ar gyfer mathau gwahanol o bost
  9. y mathau o risgiau i bost wrth ei ddosbarthu
  10. y mathau o risgiau i chi eich hun wrth ddosbarthu
  11. y canllawiau sefydliadol perthnasol ar gyfer digoelu post a’r gofynion rheoliadol yn ymwneud â diogelu data
  12. y dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer dosbarthu post i fathau gwahanol o gyfeiriadau
  13. y mathau o gyfarpar a mecanweithiau a ddefnyddir mewn mannau dosbarthu
  14. y mathau o broblemau y gellir dod ar eu traws wrth ddosbarthu a’r dulliau ar gyfer ymdrin â’r rhain
  15. y mathau o wasanaethau dosbarthu sydd ar gael
  16. y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
  17. y wybodaeth a’r systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a sut i gofnodi gwybodaeth yn ymwneud â dosbarthu post  


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLMS151

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu

Cod SOC

9211

Geiriau Allweddol

gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau