Prosesu post trwy systemau awtomataidd

URN: SFLMS149
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu post trwy systemau awtomataidd a ddefnyddir ar adegau gwahanol yn y broses ddidoli a dosbarthu gyffredinol. 

Mae’r safon yn cynnwys gwirio a gosod yr offer ar gyfer prosesu sydd ei angen, llwytho’r post i mewn i gyfarpar y system awtomataidd, monitro gweithrediad y cyfarpar, a dadlwytho’r post, unwaith y mae wedi cael ei brosesu. Bydd angen i chi nodi unrhyw broblemau gyda’r cyfarpar post a chymryd y camau perthnasol.   

Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei hanelu at weithredwyr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a bioddiogelwch a dilyn gweithdrefnau sefydliadol, bob amser, wrth weithio mewn gwasanaethau post
  2. cadarnhau bod y systemau awtomataidd yn barod ac yn ddiogel i gael eu defnyddio ar gyfer y mathau gwahanol o bost sydd yn cael ei brosesu
  3. ymdrin â’r post yn ddiogel i leihau’r risg o anaf i chi eich hun a staff eraill, neu niwed i’r post
  4. paratoi’r post ar gyfer ei brosesu, gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd, mewn perthynas â defnyddio cyfarpar
  5. llwytho’r post yn gywir i mewn i’r systemau awtomataidd
  6. bwydo’r post trwy’r systemau awtomataidd ar y raddfa sydd yn angenrheidiol ar gyfer galluoedd y cyfarpar
  7. monitro cywirdeb a chyflymder y systemau awtomataidd yn rheolaidd, gan ymdrin ag unrhyw faterion sydd yn digwydd 
  8. dadlwytho post o’r systemau awtomataidd i mewn i’r bwndeli a’r cynwysyddion cywir
  9. nodi ac ymateb i unrhyw broblemau gyda’r cyfarpar yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  10. cofnodi’r gwaith o brosesu post yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a chan ddilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a sefydliadol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau drosoch chi eich hun ac eraill
  2. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer prosesu post trwy systemau awtomataidd
  3. y mathau o systemau awtomataidd a ddefnyddir ar gyfer tasgau prosesu gwahanol
  4. y risgiau sydd yn gysylltiedig â phrosesu ac ymdrin â mathau gwahanol o bost
  5. y dulliau ar gyfer paratoi post ar gyfer mathau gwahanol o gyfarpar a phrosesu
  6. y dulliau gwahanol o lwytho a bwydo post i mewn i systemau awtomataidd
  7. galluoedd mathau gwahanol o gyfarpar a ddefnyddir gan eich sefydliad 
  8. y gweithdrefnau a’r systemau monitro a ddefnyddir gan eich sefydliad
  9. mesuriadau perfformiad peiriant y cynhyrchydd a sut i’w cofnodi
  10. y dulliau perthnasol o ddadlwytho mathau gwahanol o gyfarpar a’r cynwysyddion y dylid eu defnyddio ar gyfer y mathau o bost sydd yn cael eu prosesu
  11. ble i osod post ar ôl ei ddadlwytho yn barod ar gyfer y gyrchfan nesaf
  12. sut i adnabod problemau sydd yn gallu digwydd wrth ddefnyddio systemau awtomataidd a’r dulliau ar gyfer ymdrin â’r problemau hynny
  13. y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
  14. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLMS149

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu

Cod SOC

9211

Geiriau Allweddol

gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau