Cynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post

URN: SFLMS144
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post i gyrchfannau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys llwybrau sydd yn fewnol i’r busnes didoli post a’r rheiny sydd yn allanol i’r adeilad didoli, ac i gwsmeriaid allanol. 

Bydd y rôl yn rhoi cyfrif am unrhyw ffactorau sydd yn gallu effeithio ar ddosbarthu’r post, yn cynnwys cynllunio llwybrau, a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau a’r costau sydd ar gael. Dylai cynllunio llwybrau gael ei gyfathrebu’n glir er mwyn i gyfarwyddiadau allu cael eu dilyn yn gywir gan staff mewnol, is-gontractwyr a phartneriaid dosbarthu. 

Mae’r safon hon yn cynnwys staff sydd yn gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol. Mae rôl cynllunio llwybrau yn rôl arbenigol, yn aml yn cael ei wneud gan unigolion nad ydynt yn rhan o’r rolau gweithrediadau post arferol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioamrywiaeth perthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â chynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post
  2. cael manylion gofynion casglu a dosbarthu, yn cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau arbennig neu geisiadau gan gleientiaid, ac ymgorffori’r rhain wrth gynllunio llwybrau
  3. cael manylion y mathau o bost sydd yn cael eu casglu a’u dosbarthu
  4. nodi eitemau post sydd angen eu trin mewn ffordd arbennig
  5. cynllunio’r llwybrau a’r drefn orau ar gyfer casglu a dosbarthu’r post 
  6. nodi ac ymateb i unrhyw broblemau ar hyd y llwybrau a gynlluniwyd
  7. dilysu bod costau ac adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol wrth gasglu a dosbarthu post
  8. cofnodi llwybrau sydd wedi eu cynllunio yn y system wybodaeth a chofnodi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y diwydiant a sefydliadol perthnasol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau ar eich cyfer chi ac eraill
  2. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol dros gynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post
  3. y dulliau cynllunio gwahanol ar gyfer pennu llwybrau i gwsmeriaid mewnol ac allanol
  4. y wybodaeth sydd yn ofynnol er mwyn cynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post 
  5. y ffactorau sy’n effeithio ar gasglu a dosbarthu post 
  6. y mathau o bost y mae angen eu casglu a’u dosbarthu a’r llwybrau a’r cyrchfannau perthnasol 
  7. y mathau o ofynion ymdrin arbennig ar gyfer mathau gwahanol o bost
  8. y problemau y gellir dod ar eu traws a’r dulliau ar gyfer unioni unrhyw faterion neu broblemau
  9. perthnasedd y defnydd effeithiol o adnoddau a chostau wrth gynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post
  10. y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
  11. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion 

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLMS144

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu

Cod SOC

9211

Geiriau Allweddol

gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau