Cyfrannu at gynnal perthnasoedd gwaith mewn gwasanaethau post

URN: SFLMS141
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at gynnal perthnasoedd gwaith mewn gwasanaethau post, ac yn cynnwys gweithio gyda staff eraill, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu.

Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i geisiadau gan staff a chwsmeriaid ac yn darparu gwybodaeth i’w cynorthwyo. Bydd angen i chi ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol. Mae’r rôl yn gofyn i chi weithio o fewn terfynau eich cyfrifoldebau eich hun ac adrodd am unrhyw broblemau gyda pherthnasoedd gwaith wrth eich rheolwr uniongyrchol.

Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaethau post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei hanelu at weithredwyr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser wrth weithio mewn gwasanaethau post
  2. parchu amrywiaeth hawliau a chredoau yr holl staff, cwsmeriaid a’r partneriaid dosbarthu mewn gwasanaethau post, yn cynnwys y rheiny sy’n gweithio’n uniongyrchol i’r sefydliad, neu o dan gontract iddo
  3. rhoi cymorth i eraill o fewn graddfeydd amser y cytunwyd arnynt, gofynion contract a’ch rôl a’ch cyfrifoldebau eich hun
  4. darparu’r wybodaeth gywir i staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  5. cyfathrebu gyda staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu mewn ffordd sydd yn cynnal perthnasoedd gwasanaeth a chontract
  6. cyfrannu at fentrau busnes a gwella ansawdd
  7. cynnal prthnasoedd gwaith a chynrychioli’r sefydliad, gan ddilyn gofynion sefydliadol ar gyfer ymddangosiad ac ymddygiad
  8. cwblhau gweithgareddau gwaith o fewn rôl eich swydd a chael cymorth ar gyfer gweithgareddau y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
  9. rhoi cymorth i gydweithwyr yn ystod hyfforddiant staff a gweithgareddau datblygu
  10. nodi ac ymateb i faterion sydd yn digwydd gyda’ch gweithgareddau gwaith a chael cymorth lle bo angen
  11. adrodd a chofnodi’r holl faterion yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogelwch data a gwybodaeth yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a’r sefydliad wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau drosoch chi eich hun ac eraill
  2. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer gweithgareddau gwasanaeth post sydd yn cael eu gwneud
  3. y polisïau deddfwriaeth a sefydliadol perthnasol yn ymwneud ag amrywiaeth yn y gweithle
  4. y mathau o geisiadau a wneir gan staff eraill, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
  5. y math o gymorth a gwybodaeth y gellir eu darparu gan staff eraill, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
  6. y ffactorau sy’n effeithio ar berthnasoedd gwaith yn rôl eich swydd
  7. y gweithdrefnau sefydliadol ynghylch sut i gyfathrebu â staff eraill, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
  8. y gofynion sefydliadol ar gyfer ymddangosiad ac ymddygiad, yn cynnwys y codau gwisg
  9. sut i gyfrannu at fentrau busnes a gwella ansawdd yn eich sefydliad
  10. sut i gysylltu â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
  11. canlyniadau gweithio y tu hwnt i’ch lefel cymhwysedd eich hun
  12. y cyfleoedd hyfforddiant a datblygu a ddarperir gan y sefydliad
  13. y mathau o faterion y gellir dod ar eu traws gyda pherthnasoedd gwaith mewn gwasanaethau post a sut i ddelio â nhw
  14. y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
  15. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLMS141

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu

Cod SOC

9211

Geiriau Allweddol

gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau