Nodi a monitro’r defnydd o adnoddau logisteg

URN: SFLLO37
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi a monitro’r defnydd o adnoddau logisteg, yn cynnwys nodi’r adnoddau priodol, a chynllunio sut i’w defnyddio. Mae hefyd yn cynnwys monitro’r defnydd o adnoddau i wella perfformiad. Gallai hyn gynnwys monitro adnoddau amgylcheddol ac ailgylchu.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, swyddfeydd trafnidiaeth neu anfon cludiant ymlaen. Gallai’r safon fod yn berthnasol i’r rheiny sy’n gofalu am nifer o staff a chynnwys cyfrifoldeb rheolwr llinell. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi’r mathau o adnoddau a ddefnyddir ar gyfer gweithrediadau logisteg 
  2. nodi argaeledd, galw a chost ar gyfer adnoddau logisteg yn eich sefydliad
  3. nodi’r ffactorau a allai effeithio ar y defnydd o adnoddau logisteg
  4. cynllunio sut gallai adnoddau logisteg gael eu defnyddio i fodloni anghenion busnes a chynyddu proffidioldeb yn eich sefydliad
  5. cynyddu’r defnydd o adnoddau logisteg i gael cydbwysedd o ran defnydd a pherfformiad
  6. cyfathrebu gyda, a hysbysu cydweithwyr o’u cyfrifoldebau sefydliadol yn unol â defnyddio adnoddau logisteg
  7. monitro’r defnydd o adnoddau logisteg i nodi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar yr amgylchedd
  8. nodi ffyrdd o leihau, ailddefnyddio, rhannu, ailgylchu neu wella adnoddau logisteg
  9. cofnodi gwaith a wneir yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â’r defnydd o adnoddau logisteg


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y mathau o adnoddau a ddefnyddir mewn gweithrediadau logisteg penodol
  2. sut i nodi argaeledd, y galw a’r gost ar gyfer adnoddau logisteg yn eich sefydliad
  3. y ffactorau a allai effeithio ar y defnydd o adnoddau (e.e. cytundebau lefel gwasanaeth a Dangosyddion Perfformiad Allweddol)
  4. y dulliau ar gyfer gwneud y defnydd gorau o adnoddau a chyfathrebu gofynion defnyddio adnoddau i gydweithwyr
  5. y mathau o broblemau sydd yn gysylltiedig â defnyddio mathau gwahanol o adnoddau logisteg
  6. y ffynonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol sy’n effeithio ar weithrediadau logisteg, yn cynnwys deddfwriaeth amgylcheddol
  7. y dulliau a ddefnyddir gan y sefydliad i fonitro’r defnydd o adnoddau logisteg
  8. sut gellir gwella’r defnydd o adnoddau logisteg
  9. y rolau, y cyfrifoldebau a’r systemau rheoli sy’n berthnasol i weithrediadau logisteg yn eich sefydliad
  10. y systemau gwybodaeth a chofnodi, y systemau monitro a’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
  11. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â’r defnydd o adnoddau logisteg


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth, arferion gweithio, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau’r diwydiant

Adnoddau: systemau rheoli stoc, systemau rheoli warws, dogfennau, mathau o drafnidiaeth, gweithlu, telemateg, cyfarpar codi a thrin, offer cynllunio llwybr, meddalwedd cyfrifiadur, cyfarpar monitro cerbydau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLLO37

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

adnoddau; cynyddu; monitro; cynllunio; gwella