Prosesu, cwblhau a chyflwyno dogfennau ar gyfer nwyddau i’r Tollau

URN: SFLITLO9
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu, cwblhau a chyflwyno dogfennau ar gyfer nwyddau i’r tollau. Bydd angen i chi gadarnhau bod y dogfennau’n cydymffurfio â gofynion yr awdurdodau rheoliadol perthnasol, p’un ai yn y DU neu’n rhyngwladol, gan gymryd camau priodol i ddatrys unrhyw faterion.

Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r telerau ac amodau perthnasol yn ymwneud â chwblhau a chadw dogfennau tollau wrth gludo nwyddau yn y DU neu’n rhyngwladol.

Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull trafnidiaeth neu gyfuniad o ddulliau, p’un ai ar y ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.

Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gyfrifol am brosesu a chwblhau dogfennau tollau mewn gweithrediadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Cael yr holl fanylion perthnasol o’r nwyddau sydd yn cael eu cludo a sicrhau bod y manylion yn gywir, gan ddatrys unrhyw faterion yn eich awdurdod
  2. Dewis y dogfennau tollau cywir a’r dulliau talu ar gyfer y wlad lle mae’r nwyddau’n cael eu trosglwyddo iddi neu drwyddi
  3. Cadarnhau bod y dogfennau tollau yn cynnwys holl fanylion perthnasol y nwyddau sydd yn cael eu hallforio neu eu mewnforio, a datrys unrhyw fanylion sydd yn aneglur neu’n ymddangos fel pe baent yn gwrth-ddweud ei gilydd
  4. Cadarnhau bod y gweithdrefnau tollau a’r dogfennau tollau perthnasol yn cael eu defnyddio ar gyfer y wlad y mae’r nwyddau’n cael eu cludo iddi neu drwyddi
  5. Prosesu a sicrhau bod yr holl adrannau o’r dogfennau tollau yn gyflawn ac nad oes unrhyw wybodaeth sydd ei hangen yn cael ei hepgor
  6. Darparu’r holl wybodaeth sydd yn ofynnol gan yr awdurdodau tollau
  7. Cadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd gywir a dealladwy
  8. Cadarnhau bod y dogfennau tollau yn cael eu ffeilio a’u cadw’n briodol, yn unol â gofynion statudol a rheoliadol
  9. Cyflwyno’r dogfennau tollau i’r rhanddeiliad perthnasol ar yr adeg briodol, yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
  10. Nodi unrhyw ddigwyddiadau neu broblemau nas rhagwelwyd gyda’r dogfennau, a chymryd y camau priodol
  11. Adrodd am unrhyw weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth perthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, rheoliadau, safonau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, yn cynnwys ymarfer moesegol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Y dogfennau sydd eu hangen gan awdurdodau tollau yn y DU ac yn rhyngwladol
  2. Y dogfennau tollau sydd eu hangen gan wledydd wrth gludo neu yn y gyrchfan
  3. Y dogfennau tollau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol sydd eu hangen ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, trafnidiaeth, dulliau a llwybrau cludo
  4. Y math o wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer mathau gwahanol o ddogfennau tollau ar gyfer nwyddau
  5. Y dogfennau tollau cenedlaethol a rhyngwladol sydd yn orfodol
  6. Sut i gwblhau a phrosesu’r dogfennau tollau ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu cludo, a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
  7. Pwysigrwydd cyflwyno’r dogfennau tollau priodol ar yr adeg iawn i’r person iawn, a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
  8. Rôl sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol yn symud nwyddau
  9. Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid, cyflenwyr, cyrff rheoliadol swyddogol a rhanddeiliaid eraill
  10. Y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’ch maes cyfrifoldeb eich hun
  11. Y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol a rheoliadau ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, y cymysgedd o nwyddau, dulliau trafnidiaeth a masnach ryngwladol
  12. Y cyrff rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a’u gofynion cydymffurfio
  13. Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad
  14. Yr arferion gweithio, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau a’r codau ymarfer, yn cynnwys ymarfer moesegol
  15. Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr yn y gadwyn gyflenwi wrth symud nwyddau
  16. Y canlyniadau ar gyfer y cwsmer a’ch cwmni eich hun o wallau mewn dogfennau


Cwmpas/ystod


Awdurdod Tollau
Cenedlaethol
Rhyngwladol

Manylion y Nwyddau
Manylion sy’n ofynnol ar gyfer tollau
Gofynion cwsmeriaid
Gofynion amgylcheddol
Gofynion gwahanu
Gofynion pacio

Dull trafnidiaeth
Llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo cargo a rholio ymlaen/rholio i ffwrdd.
Awyr
Môr
Rheilffordd
Ffordd


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dogfennau tollau
Dogfennau sydd eu hangen gan awdurdodau tollau yn y DU a thramor

Incoterms
Termau Masnachol Rhyngwladol. 
Mae rheolau Incoterms yn esbonio set o 3 term masnach sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterms yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r rheolau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.

Problemau gyda dogfennau
Gwallau yn y wybodaeth am y nwyddau neu yn cwblhau dogfennau tollau fydd yn arwain at wrthod y dogfennau 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLITLO9

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Proffesiynol, Mentrau mân-werthu a masnachol, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Mewnforio, Storio a Manwerthu, Masnachau Cerbydau

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

tollau; dogfennau; datganiad