Prosesu, cwblhau a chyflwyno dogfennau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau

URN: SFLITLO8
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod dogfennau trafnidiaeth sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau’n cael eu prosesu’n gywir, eu cwblhau a’u cyflwyno’n brydlon i’r rhanddeiliad priodol. Bydd angen i chi sicrhau bod y dogfennau’n cydymffurfio â gofynion perthnasol yr awdurdodau rheoliadol, p’un ai yn y DU, yr UE neu’n rhyngwladol, gan gymryd camau priodol i ddatrys unrhyw faterion.

Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r telerau ac amodau perthnasol yn ymwneud â chwblhau a chadw dogfennau wrth gludo nwyddau yn y DU, yr UE neu’n rhyngwladol.

Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull trafnidiaeth neu gyfuniad o ddulliau, p’un ai ar y ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.

Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gyfrifol am brosesu a chwblhau dogfennau trafnidiaeth yn gywir mewn gweithrediadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Cael holl fanylion perthnasol y nwyddau sydd yn cael eu cludo, a sicrhau bod y manylion yn gywir, gan ddatrys unrhyw faterion, yn eich awdurdod
  2. Dewis y dogfennau trafnidiaeth cywir ar gyfer y nwyddau a’r dull trafnidiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio
  3. Prosesu’r dogfennau trafnidiaeth cywir ar gyfer y nwyddau a’r dulliau trafnidiaeth sydd yn cael eu defnyddio
  4. Cwblhau’r holl adrannau perthnasol o’r dogfennau trafnidiaeth gan sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn gyflawn
  5. Darparu trawsgrifiadau cryno o’r nwyddau yn unol â’r gofynion rheoliadol a rhanddeiliaid perthnasol            
  6. Cadarnhau bod y dogfennau trafnidiaeth yn cynnwys holl fanylion perthnasol y nwyddau sydd yn cael eu cludo a datrys unrhyw fanylion sydd yn aneglur neu’n ymddangos eu bod yn gwrth-ddweud ei gilydd
  7. Cyflwyno’r dogfennau trafnidiaeth ar gyfer y nwyddau i’r rhanddeiliad perthnasol ar yr adeg briodol, yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
  8. Ymgorffori termau masnach sydd yn dderbyniol ar hyn o bryd i’r sefydliadau sydd yn gwneud cais am y wybodaeth am y trafnidiaeth
  9. Cadarnhau bod y dogfennau trafnidiaeth yn cael eu ffeilio a’u cadw’n briodol, yn unol â’r gofynion statudol a rheoliadol perthnasol
  10. Nodi unrhyw broblemau gyda’r dogfennau trafnidiaeth, a chymryd y camau priodol i ymdrin â nhw
  11. Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadol perthnasol
  12. Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, rheoliadau, safonau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, yn cynnwys ymarfer moesegol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Y dogfennau trafnidiaeth cenedlaethol a rhyngwladol sydd eu hangen ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, dulliau trafnidiaeth, a llwybrau cludo, neu yn y gyrchfan derfynol
  2. Y lefel a’r math o wybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer mathau gwahanol o ddogfennau trafnidiaeth                       
  3. Y termau masnach a’r safonau rhyngwladol ar gyfer cludo nwyddau, yswiriant a chostau (Incoterms)
  4. Sut i gwblhau a phrosesu’r dogfennau trafnidiaeth ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu cludo a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
  5. Rôl sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol yn symud nwyddau
  6. Pwysigrwydd cyflwyno’r dogfennau trafnidiaeth priodol ar yr adeg briodol i’r person iawn, a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
  7. Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid, cyflenwyr, cyrff rheoliadol a rhanddeiliaid eraill
  8. Y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’ch maes cyfrifoldeb eich hun
  9. Y gofynion deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol ar gyfer storio a chadw dogfennau trafnidiaeth yn ymwneud â masnach ryngwladol
  10. Y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, dulliau trafnidiaeth a masnach ryngwladol
  11. Y cyrff rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol a’u gofynion cydymffurfio
  12. Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad
  13. Yr arferion gwaith, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau a chodau ymarfer, yn cynnwys ymarfer moesegol, a ddefnyddir gan eich sefydliad
  14. Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr yn y gadwyn gyflenwi wrth symud nwyddau
  15. Y canlyniadau i’r cwsmer a gwallau eich cwmni eich hun yn cludo dogfennau 


Cwmpas/ystod


Manylion y nwyddau
Y manylion sydd eu hangen ar gyfer tollau
Gofynion y cwsmer
Gofynion amgylcheddol
Gofynion gwahanu
Gofynion pacio

Dull trafnidiaeth
Llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo cargo a rholio ymlaen/rholio i ffwrdd.
Awyr
Môr
Rheilffordd
Ffordd


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Incoterms *
Termau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterms yn esbonio set o 3 term masnach sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterms yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r rheolau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.

Dogfennau trafnidiaeth
Dogfennau am y nwyddau, eu cyrchfan a’r dull trafnidiaeth sy’n ofynnol, neu allai fod eu hangen, ar gyfer eu harchwilio gan awdurdodau rheoliadau trafnidiaeth yn y DU a thramor.

Problemau gyda dogfennau*
Gwallau yn y wybodaeth am y nwyddau, eu cyrchfan, y dull trafnidiaeth neu yn cwblhau dogfennau trafnidiaeth fydd yn arwain at wrthod y dogfennau.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLITLO8

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Mentrau mân-werthu a masnachol, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

trafnidiaeth; dogfennau; symudiadau; nwyddau; deunyddiau