Rheoli costau ac adnoddau mewn gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid

URN: SFLITLO4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2015

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli costau ac adnoddau mewn gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid. Mae hefyd yn cynnwys galw presennol y sefydliad a’r galw yn y dyfodol yn cynnwys am bobl, sgiliau a gofynion gweithlu.

Mae’n cynnwys nodi a defnyddio dangosyddion perfformiad i werthuso cyflawni  amcanion, o fewn yr adnoddau sydd ar gael a chanlyniadau’r prosiect.

Mae’r rôl yn cynnwys ymchwilio i unrhyw wyriadau i ddarparu gwasanaeth, nodi gwelliannau a’u hargymell i wneuthurwyr penderfyniadau.

Mae’r safon hon wedi ei hanelu at unigolion â chyfrifoldeb dros reoli costau ac adnoddau yn y sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Nodi eich maes eich hun a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb dros gynllunio gweithredol
  2. Nodi gweledigaeth, diben, nodau ac amcanion y weithred logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid a galw yn y dyfodol
  3. Nodi a gwerthuso syniadau newydd yn erbyn atebion sydd wedi eu rhoi ar brawf ar gyfer cynllunio gweithredol
  4. Defnyddio amrywiaeth o adnoddau i lywio a datblygu dangosyddion perfformiad ar gyfer ansawdd cyflwyno
  5. Datblygu cynlluniau gweithredol a rheoli adnoddau i fodloni anghenion gweithredol presennol ac yn y dyfodol a gofynion y cwsmer
  6. Cadarnhau bod personél ac unigolion allweddol yn cael eu briffio ar gynlluniau a chanlyniadau gweithredol
  7. Nodi’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun gweithredol
  8. Nodi dulliau casgu data priodol ar gyfer mesuriad gweithredol cyflawni amcanion
  9. Blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael i gyflawni nodau ac amcanion y sefydliad
  10. Rheoli a gweithredu systemau, gweithdrefnau ac ymarfer i fonitro a mesur cynnydd yn erbyn dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt
  11. Gweithredu pan nad yw adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon
  12. Nodi amrywiadau a thueddiadau yn yr ardal weithredol, a nodi cyfleoedd ar gyfer arbed costau
  13. Adolygu ac optimeiddio costau ac adnoddau i ddarparu ar gyfer amgylchiadau sy’n newid
  14. Gwirio ac ymchwilio i amgylchiadau unrhyw wyriadau o’r contract, gan gytuno a gweithredu camau cywiro o fewn eich awdurdod
  15. Briffio gwneuthurwyr penderfyniadau am gynnydd a newidiadau i’r rhaglen weithredol, adnoddau a chostau ac awgrymu’r camau sydd angen eu cymryd
  16. Cadarnhau bod personél allweddol ac eraill yn cael eu cefnogi pan yn cyfrannu at fonitro a mesur cyflawni nodau yn erbyn dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt
  17. Casglu gwybodaeth a data i roi llinell sylfaen ar gyfer mesur perfformiad yn ei erbyn a nodi tueddiadau
  18. Gwerthuso ansawdd darpariaeth gwasanaeth yn erbyn dangosyddion perfformiad, gofynion cwsmeriaid a chanlyniadau gweithredol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Sut i gyfathrebu gyda’r tîm rheoli, cydweithwyr a rhanddeiliaid allanol i sefydlu meysydd cyfrifoldeb mewn perthynas â chynllunio gweithredol
  2. Y dulliau a’r strategaethau i leoli’r diben a’r amcanion i gael eu cyflawni mewn perthynas â rheoli ansawdd, costau ac adnoddau, manylebau cynnyrch a chydymffurfio
  3. Y dulliau, y fformatiau a’r systemau ar gyfer cynllunio gweithredol a sut i gysylltu’r rhain â gofynion neu anghenion sefydliadol a chwsmeriaid, nawr ac yn y dyfodol
  4. Y dulliau o ailwerthuso cynllunio a chwistrellu syniadau newydd
  5. Y ffyrdd o friffio eraill ar gynllunio mewn perthynas â’r gweithrediad
  6. Y ffyrdd o nodi a chynllunio anghenion adnoddau sydd yn gysylltiedig â’r amcanion a gynlluniwyd, yn cynnwys y mathau gwahanol o adnoddau sydd ar gael
  7. Sut i ganfod gwybodaeth sydd yn gysylltiedig â gosod a diffinio perfformiad gan ddefnyddio: amcanion Cyraeddadwy, Amser wedi’i bennu, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol 
  8. Y dulliau sydd ar gael ar gyfer casglu data a mesur cyflawniad yn erbyn amcanion
  9. Sut i ddewis y Darparwr Gwasanaeth Logisteg (LSP) gorau sydd yn cynnig cyfraddau marchnad cystadleuol ar gyfer trafnidiaeth, warws a storio, ac yn gallu bodloni Dangosyddion Perfformiad Allweddol, cydymffurfio, rheoli risg ac ystyriaethau eraill cadwyn gyflenwi
  10. Y dulliau o weithredu systemau i fonitro a chofnodi cyfnodau allweddol gweithredu’r cynllun                           
  11. Sut, pam, a phwysigrwydd cytuno i gamau cywirio mewn amgylchiadau pan fydd gwyro oddi wrth gontract
  12. Sut i fonitro a gweld cyfleoedd ar gyfer arbed costau
  13. Y dulliau adolygu parhaus yn unol â gweithdrefnau ac arferion sefydliadol                                           
  14. Sut i gyfathrebu, cadarnhau ac ymchwilio i wyriadau o’r contract, yn cynnwys dulliau ar gyfer cymryd camau cywiro
  15. Y dulliau a’r prosesau ar gyfer briffio gwneuthurwyr penderfyniadau ar weithredoedd
  16. Sut i gynorthwyo personél a chydweithwyr allweddol i gasglu gwybodaeth at ddibenion monitro a mesur
  17. Y dulliau a’r rhesymau dros gynnal gwerthusiad o ddarpariaeth gwasanaeth, yn cynnwys ystyriaethau yn erbyn amrywiadau costau tymhorol
  18. Pwysigrwydd sicrhau bod y cwsmer yn deall anghenion a gofynion y gweithrediad logisteg
  19. Sut i reoli’r gwasanaeth a dderbynnir gan y sefydliad gan y rhai a ddewisir


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gwneuthurwyr penderfyniadau
Gallai gynnwys y cleient, contractwyr, is-gontractwyr, ymgynghorwyr, cyflenwyr, rheolaeth fewnol

Darparwr Gwasanaeth Logisteg (LSP)
Anfonwr Cludiant Ymlaen neu gludwr a ddewisir i ddarparu ffurfioldeb Trafnidiaeth a Thollau Rhyngwladol.

Adnoddau
Gallai gynnwys unrhyw un o’r canlynol: pobl, peiriannau a chyfarpar, deunyddiau a chydrannau, cyllid, amser, gwasanaethau arbenigol, gwasanaethau cyfleustod, cyllidebau 3PL, trafnidiaeth cerbydau, warws

Systemau i fonitro a chofnodi
Gellid defnyddio systemau i fonitro unrhyw un o’r canlynol: archwilio a phrofi, cofnodion adnoddau, adroddiadau archwilio safle, adroddiadau contractwyr, prydlesi, cytundebau asiantaeth, cyllidebau, cytundebau tramor 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLITLO4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Rheolwr Gweithrediadau; , Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

rheoli ansawdd; rheoli costau; rheoli adnoddau; costau; gweithrediadau logisteg