Cynnal Diogelwch Bwyd wrth Ddosbarthu

URN: SFLFSLE159
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Meh 2009

Trosolwg


Am beth mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch bwyd wrth ddosbarthu mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i gael Systemau Rheolaeth Diogelwch Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.

Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwirio bod y cofnodion cywir yn barod i dderbynnydd yr eitemau bwyd eu dilysu
  2. sicrhau nad yw eitemau sydd i fod cael eu dosbarthu wedi cael eu niweidio wrth eu cludo 
  3. sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i gynnal amodau amgylcheddol gofynnol ardal llwytho cerbydau wrth ddadlwytho
  4. dadlwytho eitemau bwyd i leoliad a gytunwyd gyda’r cleient ac sydd yn cynnal diogelwch yr eitemau bwyd 
  5. cymryd y camau priodol i sicrhau bod risg yn cael ei leihau pan fydd cleientiaid yn gwrthod derbyn eitemau bwyd oherwydd pryderon yn ymwneud â’u diogelwch, neu am resymau eraill
  6. gwirio a chytuno gyda’r cleient bod yr eitemau bwyd cywir wedi cael eu dosbarthu
  7. cael y gwaith papur perthnasol gan y cleient fel cofnod a chadarnhad dosbarthu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. pam y mae’n bwysig cadw’r cerbyd yn lân 
  2. y lefelau tymheredd sy’n berthnasol i’r categorïau amrywiol o eitemau bwyd y mae eu tymheredd yn cael ei reoli sydd yn cael eu cludo.
  3. pam y mae’n bwysig cynnal tymheredd gofynnol yr ardal llwytho cerbydau
  4. y rôl y mae rheoli tymheredd yn ei chwarae yn cynnal diogelwch bwyd 
  5. y peryglon a allai arwain at ardal ddosbarthu’n cael ei hystyried yn anniogel
  6. pam y mae’n bwysig cynnal y gallu i olrhain bwyd trwy ddefnyddio cofnodion cywir bwyd sydd wedi cael ei ddosbarthu neu ei ddychwelyd.
  7. y rhesymau pam y gallai cleientiaid wrthod eitemau bwyd
  8. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi ac ymdrin ag eitemau i’w dychwelyd.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Bwyd: Bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid

Gallu i olrhain: Y gallu i olrhain a dilyn bwyd neu sylwedd trwy bob cam o’r gadwyn fwyd. Gallai’r broses a ddefnyddir fod yn ffocws canolog o’r ‘Gweithdrefnau Rheoli Diogelwch Bwyd’.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Medi 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLFSLE159

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad y Grîn, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

Diogelwch Bwyd Dosbarthu