Dyfeisio a Gweithredu Gweithdrefnau Rheoli Diogelwch Bwyd mewn Amgylchedd Logisteg

URN: SFLFSLE156
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Meh 2009

Trosolwg


Am beth mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn ymwneud â dyfeisio a gweithredu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i gael Systemau Rheolaeth Diogelwch Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.

Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi a gwneud defnydd o’r arweiniad a’r cymorth sydd ar gael ar eich cyfer ym maes rheoli diogelwch bwyd
  2. nodi gofynion gweithredu y sefydliad a pheryglon diogelwch bwyd cysylltiedig
  3. nodi’r materion rheoli diogelwch bwyd sydd yn gysylltiedig â’r gofynion gweithredol a’r peryglon hyn
  4. dewis mesurau rheoli dilys ar gyfer y peryglon diogelwch bwyd yr ydych wedi eu nodi
  5. cyfathrebu gofynion allweddol y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd wrth y bobl berthnasol
  6. sicrhau bod hyfforddiant digonol yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn cael eu cynnal
  7. sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu hadrodd a’u cofnodi yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd sefydliad
  8. monitro’r ffordd y mae gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth diogelwch bwyd yn cael ei dilyn
  9. annog hinsawdd agored ynghylch bodloni gofynion diogelwch bwyd
  10. addasu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn unol â newidiadau mewn anghenion sefydliadol
  11. gwerthuso gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. pwysigrwydd gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd

  2. gofynion deddfwriaethol diogelwch bwyd

  3. elfennau hanfodol gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  4. ffynonellau arweiniad a chymorth arbenigol i lunio gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a sut i gael mynediad at hyn
  5. gofynion gweithredol eich sefydliad ynghylch pa fesurau rheoli i’w rhoi ar waith
  6. sut i gyfathrebu cyfrifoldebau staff o fewn y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  7. sut i nodi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar staff
  8. y cofnodion a’r gweithdrefnau cofnodi ddylai fod ar waith 
  9. sut i ddarparu hyfforddiant priodol
  10. pwysigrwydd, a’r cyfrifoldeb dros fonitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  11. y mathau o wyriadau o’r gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a allai ddigwydd a’r camau unioni y dylech eu cymryd
  12. pwysigrwydd gwerthuso’r gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a’r hyn y dylid ei gynnwys
  13. sut i gynnal gwerthusiad rheolaidd ac wedi ei gynllunio o’r gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  14. ffactorau a allai sbarduno diweddariad uniongyrchol y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  15. pwysigrwydd cyfathrebu unrhyw newidiadau yn y gweithdrefnau wrth eich staff


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Mesurau rheoli: Gweithredoedd sy’n ofynnol i atal neu ddileu perygl diogelwch bwyd, neu ei leihau i lefel dderbyniol

Peryglon diogelwch bwyd: Rhyw

beth all achosi niwed i’r defnyddiwr a gall fod:
yn ficrobiolegol (er enghraifft, bacteria, llwydni, feirysau)
yn gemegol (er enghraifft, plaladdwyr a ddefnyddir ar ffrwythau a llysiau, cemegau a ddefnyddir i lanhau neu i reoli plâu)
yn ffisegol (er enghraifft, pryfed, parasitiaid, gwydr)
yn alergenaidd (er enghraifft cnau, llaeth, wyau)

Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd: Y polisïau, yr arferion, y rheolyddion a’r dogfennau sydd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel ar gyfer defnyddwyr, e.e. Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Hanfodol (HACCP).

Gweithdrefnau: Cyfres o gamau neu gyfarwyddiadau clir ynghylch sut i wneud pethau; rheolau. Mae rhai cwmnïau yn cofnodi eu gweithdrefnau yn ffurfiol yn ysgrifenedig, ac mae gan eraill weithdrefnau y mae’r staff i gyd yn eu deall a’u dilyn ond sydd heb eu hysgrifennu i lawr.

Hyfforddiant: Dod ag unigolyn i fyny i’r lefel neu’r safon hyfedredd dymunol. Gellir gwneud hyn trwy gyfarwyddyd neu trwy gyrsiau hyfforddiant ffurfiol. Mae hyn hefyd yn cynnwys darparu hyfforddiant diweddaru a recordio cysylltiedig y gweithgaredd hyfforddi.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Medi 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLFSLE156

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

Diogelwch Bwyd Gweithdrefnau Rheoli Logisteg