Cynllunio llwybr a’r amseru ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi

URN: SFLDGV9
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Cludwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio’r llwybr a’r amseru ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi.

Mae’r safon hon yn cynnwys dosbarthu lluosog a/neu unigol. Mae’n cynnwys cynllunio llwybrau gan ddefnyddio gwybodaeth am y gofynion casglu neu ddosbarthu ar gyfer y llwythi lluosog neu unigol, yn ogystal â nodi ffactorau’n ymwneud â’r cerbyd nwyddau a’r llwyth sydd yn dylanwadu ar y dewis o lwybr, fel cyfyngiadau pwysau ac uchder. Mae hefyd yn cynnwys yr angen i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer seibiau yn ystod dyletswyddau gyrru ac i nodi lleoedd addas ar gyfer seibiau o’r fath.

Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer pob gyrrwr sy’n dosbarthu i gwsmeriaid fel rhan o ddosbarthu lluosog a/neu unigol, a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. casglu’r holl wybodaeth berthnasol ar y cyrchfannau, llwybr, amserlen, pellterau gyrru, gofynion gollyngiadau lluosog neu unigol, amserau dosbarthu a gofynion cwsmeriaid ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi
  2. nodi’r ffactorau perthnasol, yn cynnwys cyfyngiadau, a allai effeithio ar y cerbyd nwyddau a’r llwyth, wrth ddewis a chynllunio’r llwybr
  3. defnyddio’r adnoddau cynllunio llwybr perthnasol i gyrraedd cyrchfannau, yn cynnwys nodi prif ffyrdd ac is-ffyrdd
  4. nodi unrhyw broblemau posibl yn defnyddio’r llwybrau arfaethedig a chynllunio llwybrau amgen
  5. cynllunio’r pellterau gyrru a’r amser sy’n ofynnol i gyflawni’r llwybr a’r amserlen, gan ystyried unrhyw ofynion llwyth neu ddosbarthu a allai gael effaith ar y cyfnodau gyrru
  6. nodi mannau aros a lleoliadau seibiau’r gyrrwr sydd â’r cyfleusterau gofynnol ar gyfer y gyrrwr, y cerbyd nwyddau a’r llwyth
  7. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chasglu neu ddosbarthu llwythi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y wybodaeth sy’n ofynnol i gynllunio’r llwybr a’r amseru ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi
  2. y mathau gwahanol o adnoddau cynllunio llwybr sydd ar gael a sut i’w defnyddio
  3. gofynion y cwsmer a allai effeithio ar y dewis o lwybr dosbarthu
  4. y cyfyngiadau y gallai’r llwyth eu rhoi ar y dewis o lwybr
  5. dimensiynau, uchder a phwysau’r cerbyd nwyddau, a’r effaith y mae’r rhain yn ei gael ar gynllunio llwybrau
  6. sut i ddewis a chynllunio llwybr i fodloni gofynion y cwsmer, y cerbyd nwyddau a ddefnyddir a’r llwyth sydd yn cael ei dosbarthu neu ei gasglu
  7. sut i nodi cyfyngiadau llwyth a allai effeithio ar y llwybr arfaethedig
  8. y ffyrdd gwahanol o gynllunio llwybrau amgen
  9. sut i gael y wybodaeth berthnasol ar y ffactorau sydd yn gallu effeithio ar amserau teithiau
  10. sut i gynllunio pellterau gyrru a’r dechnoleg y gellir ei defnyddio i gynorthwyo gyda hyn
  11. sut i gynllunio amserau ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi, yn cynnwys cyfyngiadau ar amserau gyrru
  12. y cyfleusterau sydd yn ofynnol wrth nodi mannau aros i’r gyrrwr gael saib
  13. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chasglu neu ddosbarthu llwythi 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


  • Cyrchfan: man dosbarthu, man casglu
  • Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol
  • Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau, ac ati
  • Sefydliadol: y cwmni yr ydych yn gyrru iddo neu eich busnes eich hun
  • Adnoddau cynllunio llwybrau: mapiau, dyfeisiadau llywio â lloeren, dyfeisiadau electronig eraill, gwefannau’n ymwneud â thraffig/y cyfryngau cymdeithasol, gyrwyr eraill 
  • Amserlen: amser casglu, amser dosbarthu, mannau aros


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

cerbyd nwyddau; cynllunio; llwybr; amseru; llwythi gollyngiadau lluosog; llwythi gollyngiadau unigol;ncasglu; dosbarthu