Dadlwytho cerbydau a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu nwyddau

URN: SFLDGV8
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Cludwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dadlwytho’r cerbydau a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu, fel rhan o ddyletswyddau gyrru. Mae’n cynnwys cyfrifoldeb gyrrwr i sicrhau bod y nwyddau a’r cerbyd yn dal yn ddiogel ac yn gyfreithlon yn ystod ac ar ôl dadlwytho.

Mae’r safon hon yn cynnwys dosbarthu gollyngiadau lluosog a/neu unigol. Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad ar gyfer cyfathrebu â chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho a gweithdrefnau prawf dosbarthu.

Gallai’r mathau o gerbydau fod yn faniau cynnyrch oer, sych ar baledi, cymysg, sgwteri, beiciau modur ac ati.

Gallai’r mathau o nwyddau fod yn fwyd (ffres, wedi rhewi, sych), pren, trydanol, mewn bocsys, eitemau cartref ac ati

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gyrrwr sy’n gyfrifol am ddosbarthu gollyngiadau lluosog neu unigol a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn gweithrediadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi cyfeiriad a manylion cyswllt y cwsmer ar gyfer nwyddau fel rhan o’r dosbarthu
  2. sicrhau bod yr ardal ddadlwytho yn addas ac yn ddiogel ar gyfer derbyn y nwyddau
  3. dilyn cyfarwyddiadau dadlwytho a chynllunio dadlwytho’r cerbyd
  4. symud y cerbyd i safle addas a diogel ar gyfer dadlwytho
  5. cadarnhau bod y cerbyd wedi ei baratoi ac yn barod ar gyfer dadlwytho
  6. cadarnhau bod y nwyddau, neu ran o’r nwyddau, i gael eu dadlwytho yn cael eu nodi mewn perthynas â’r dosbarthu
  7. cadarnhau bod y nwyddau yn addas ar gyfer eu trin â llaw neu fod y cyfarpar cywir yn cael ei ddethol ar gyfer dadlwytho’r cerbyd
  8. gwisgo’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth ddadlwytho’r cerbyd, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion nwyddau
  9. cadarnhau bod cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr ar gyfer dosbarthu a’r cyfarpar yn cael eu dilyn wrth ddadlwytho’r cerbyd
  10. monitro dadlwytho’r cerbyd a chadarnhau ei fod wedi cael ei ddadlwytho yn unol â chyfarwyddiadau dadlwytho
  11. cadarnhau bod y nwyddau wedi eu gosod yn unol â gofynion y cwsmer unwaith y maent wedi eu dadlwytho
  12. ailddosbarthu’r nwyddau, fel y bo angen, yn ystod y dilyniant dosbarthu
  13. cadarnhau bod y nwyddau’n dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
  14. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
  15. sicrhau, lle bo angen, bod y nwyddau sydd ar ôl mewn safle diogel ac yn sefydlog ar gyfer dosbarthu pellach
  16. cymryd camau ac adrodd os oes problemau yn dadlwytho’r cerbyd, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  17. cwblhau a storio cofnodion prawf dosbarthu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 
  18. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
  19. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch, hylendid a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i gynllunio a chadarnhau bod cyfarwyddiadau dadlwytho’n cael eu dilyn wrth ddadlwytho’r nwyddau o’r cerbyd
  2. sut i nodi’r nwyddau i gael eu dadlwytho a beth yw gofynion y cwsmer ar gyfer dadlwytho mewn perthynas â dosbarthu
  3. ble mae’r nwyddau i gael eu gosod ar gyfer y cwsmer
  4. sut dylid paratoi’r cerbyd ar gyfer dadlwytho mathau gwahanol o nwyddau
  5. sut i osod y cerbyd yn ddiogel ar gyfer dadlwytho nwyddau 
  6. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth ddadlwytho’r cerbyd
  7. sut i asesu a yw’r nwyddau yn addas ar gyfer eu trin â llaw a’r technegau i’w defnyddio ar gyfer codi’n ofalus
  8. sut i nodi’r cyfarpar cywir ar gyfer dadlwytho’r cerbyd
  9. sut i fonitro dadlwytho mathau gwahanol o nwyddau
  10. sut i ddilyn gofynion cwsmeriaid wrth osod y nwyddau yn y lleoliad dosbarthu
  11. y pholisïau a’r cyfarwyddiadau gweithredu yn ymwneud â mannau clicio a gollwng, casgliadau a dychweliadau 
  12. pryd mae’n angenrheidiol ailddosbarthu’r nwyddau yn ystod y dilyniant dosbarthu a sut i wneud hynny
  13. sut i sicrhau bod y nwyddau mewn safle diogel ac yn sefydlog ac y gellir defnyddio’r ataliadau ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau
  14. sut i gadarnhau bod y nwyddau’n dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
  15. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
  16. y math o broblemau a allai ddigwydd wrth ddadlwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau a’r camau y dylid eu cymryd
  17. y caledwedd a’r feddalwedd a ddefnyddir i gynllunio a rheoli dosbarthu a chasglu yn cynnwys dyfeisiadau llaw i ddilysu a chofnodi dosbarthu a darparu olrhain amser real
  18. y gweithdrefnau neu’r systemau prawf dosbarthu a ddefnyddir gan eich sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion dosbarthu
  19. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho’r cerbyd
  20. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch, hylendid a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


  • Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
  • Cwsmeriaid: mewnol, allanol
  • Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Cyfarwyddiadau: ysgrifenedig, llafar
  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, gollyngiadau unigol, gollyngiadau lluosog, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau, ac ati
  • Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau am yn ôl, troi
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig
  • Prawf dosbarthu: dogfennau papur neu electronig (e.e. terfynellau llaw)
  • Dadlwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol, gollyngiadau unigol, gollyngiadau lluosog
  • Cyfarwyddiadau dadlwytho: cyfarwyddiadau llwyth, cyfarwyddiadau cwsmeriaid, gofynion llwyth, gweithdrefnau sefydliadol
  • Cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys yr ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV8

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

cerbyd nwyddau; dadlwytho; gollyngiadau lluosog; symud dodrefn