Llwytho cerbydau a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu nwyddau

URN: SFLDGV7
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Cludwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â llwytho cerbydau a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu, gan ddefnyddio gwybodaeth am y math yma o lwyth, y gofynion dosbarthu a’r amserlen. 

Mae’r safon hon yn cynnwys dosbarthu gyda gollyngiadau unigol neu luosog. Bydd yn cynnwys sicrhau bod y cerbyd wedi ei lwytho’n gywir cyn gyrru ar y ffordd gyhoeddus, p’un ai ei fod wedi cael ei lwytho gan y gyrrwr neu rywun arall. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut dylai llwyth gan ei osod yn ddiogel, y gwiriadau ffisegol y mae angen i yrrwr eu gwneud i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol cyn dechrau pob dyletswydd gyrru. 

Gallai’r mathau o gerbydau fod yn faniau cynnyrch oer, sych ar baledi, cynnyrch cymysg, sgwteri, beiciau modur ac ati.

Gallai’r mathau o nwyddau fod yn fwyd (ffres, wedi rhewi, sych) pren, trydanol, mewn bocsys, eitemau cartref ac ati.

Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad ar gyfer cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r cerbyd nwyddau.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gyrrwr sy’n gyfrifol am ddosbarthu gollyngiadau unigol neu luosog a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael y wybodaeth ofynnol ar gyfer llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau, gan gadarnhau bod y nwyddau’n cyd-fynd â’r dogfennau dosbarthu perthnasol
  2. cadarnhau bod y nwyddau ar gyfer eu llwytho mewn cyflwr da heb unrhyw ddiffygion, niwed neu wallau
  3. cadarnhau bod y cerbyd yn gweddu i’r nwyddau i gael eu cario
  4. sicrhau a chadarnhau bod y cerbyd yn barod i dderbyn y nwyddau
  5. sicrhau bod yr ardal lwytho yn addas ac yn ddiogel ar gyfer llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu
  6. symud y cerbyd i safle addas a diogel ar gyfer llwytho
  7. gwisgo’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth lwytho’r cerbyd, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion y llwyth
  8. gweithredu ac adrodd am unrhyw faterion o ran llwytho, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  9. llwytho’r cerbyd yn gywir gan ddilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, gan ystyried y math o nwyddau, y dilyniant llwytho ac unrhyw ddilyniannau dosbarthu
  10. sicrhau bod unrhyw nwyddau cymysg yn cael eu llwytho mewn ffordd sy’n osgoi halogi ac sy’n bodloni unrhyw safonau diogelwch perthnasol
  11. cadarnhau bod y pwysau’n cael ei ddosbarthu’n gywir ar gyfer y math o gerbyd
  12. gwneud y llwyth yn ddiogel gyda’r ataliaeth gywir
  13. gwneud unrhyw ddeunydd rhydd, ataliaeth a chyfarpar ategol yn ddiogel, gan sicrhau nad ydynt yn gallu symud na dod yn rhydd wrth eu cludo
  14. ailddosbarthu’r nwyddau fel y bo angen yn ystod y dilyniant dosbarthu
  15. cadarnhau bod y nwyddau’n dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
  16. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
  17. cadarnhau bod yr holl ofynion diogelwch perthnasol ar gyfer cludo’r nwyddau’n cael eu dilyn, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  18. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
  19. cadarnhau bod yr holl wybodaeth ofynnol ar gyfer pob llwyth yn gyflawn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  20. cadarnhau cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, hylendid, diogelwch a gweithredol perthnasol yn ymwneud â llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i gael y wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol ar gyfer llwytho’r cerbydau ar gyfer dosbarthu nwyddau a phwysigrwydd paru nwyddau â’r dogfennau dosbarthu perthnasol
  2. pam y mae’n bwysig archwilio a nodi diffygion, niwed neu wallau gyda’r nwyddau a beth allai ddigwydd os nad oes archwiliadau’n cael eu cwblhau 
  3. y mathau o gyfyngiadau llwyth ar gyfer y cerbyd a sut i sicrhau bod y llwyth o fewn y terfyn (e.e. terfyn pwysau a dosbarthiad pwysau)
  4. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth lwytho’r cerbydau ar gyfer dosbarthu nwyddau
  5. sut dylai’r cerbyd gael ei baratoi ar gyfer y nwyddau gwahanol sydd yn cael eu cario
  6. y dilyniant llwytho i’w ddilyn wrth lwytho ar gyfer dosbarthu
  7. sut i leoli’r cerbyd yn ddiogel ar gyfer llwytho 
  8. sut i ddosbarthu’r nwyddau wrth lwytho’r cerbyd
  9. pwysigrwydd osgoi halogi unrhyw nwyddau cymysg 
  10. pryd mae’n angenrheidiol ailddosbarthu’r nwyddau yn ystod y dilyniant dosbarthu a sut i wneud hynny
  11. sut i sicrhau bod y nwyddau wedi eu gosod yn ddiogel ac yn sefydlog ar gyfer yr ataliaeth y gellir eu defnyddio ar gyfer mathau gwahanol o lwythi
  12. y materion a allai ddigwydd os nad yw deunyddiau rhydd, ataliaeth a chyfarpar ategol wedi eu gwneud yn ddiogel
  13. y mathau o faterion a allai ddigwydd wrth lwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau a’r camau y dylid eu cymryd
  14. sut i gynnal diogelwch a sefydlogrwydd y nwyddau wrth ddosbarthu
  15. sut i sicrhau bod y nwyddau’n parhau’n rhydd rhag niwed neu halogiad
  16. y gweithdrefnau sefydliadol i’w dilyn os yw’r nwyddau’n cael eu niweidio neu eu halogi
  17. sut a ble i wirio pwysau echelau ar y cerbyd a pham mae angen hyn
  18. y caledwedd a’r feddalwedd a ddefnyddir i gynllunio a rheoli dosbarthu a chasglu, yn cynnwys dyfeisiadau llaw i ddilysu a chofnodi dosbarthu a darparu olrhain amser real
  19. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
  20. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, hylendid, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


  • Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
  • Cwsmeriaid: mewnol, allanol
  • Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, gollyngiad unigol, gollyngiad lluosog, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau ac ati
  • Llwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol, gollyngiadau unigol a lluosog
  • Ardal lwytho: safleoedd diwydiannol/masnachol, safleoedd manwerthu, ffordd gyhoeddus
  • Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau am yn ôl, troi
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig
  • Ataliaeth: strapiau, estyll, plociau, cadwyni, rhaffau
  • Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed
  • Cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys yr ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol, cerbyd cynnyrch oer, cymysg 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV7

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

cerbyd nwyddau; llwyth; gweithgareddau gollyngiadau lluosog; gweithgareddau gollyngiad unigol; symud dodrefn