Cael gwybodaeth am gasglu a dosbarthu llwythi sydd yn cael eu cario gan gerbydau nwyddau neu danceri

URN: SFLDGV6
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Cludwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrifoldeb y gyrrwr i gael gwybodaeth mewn perthynas â chasglu a dosbarthu’r llwythi y maent yn eu cario gan gerbyd nwyddau neu dancer.

Mae’n cynnwys yr hyn sydd angen i yrrwr ei wneud i sicrhau bod eu cerbyd yn addas ar gyfer y llwyth i gael ei gario, a’r dogfennau sydd angen eu cwblhau i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol yn ystod pob dyletswydd gyrru. Mae’n cynnwys y gofyniad i’r gyrrwr sicrhau bod y trwyddedau perthnasol ar gael ar gyfer y math o gerbyd a’r llwyth sydd yn cael ei gario.

Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael gwybodaeth am y llwyth i gael ei gasglu a/neu ei ddosbarthu gan gerbyd nwyddau neu dancer, yn cynnwys unrhyw ofynion penodol e.e., ar gyfer llwythi gyda thymheredd wedi ei reoli neu nodweddion eraill y llwyth
  2. sicrhau bod y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn addas ar gyfer y llwyth i gael ei gario, yn cynnwys y math o lwyth, dimensiynau, pwysau a nodweddion y llwyth
  3. cael gwybodaeth am unrhyw beryglon posibl sy’n benodol i’r llwyth i gael ei gario a sut dylid trin y rhain
  4. cael gwybodaeth am gyrchfan y llwyth a’r amserlen
  5. gweithredu pan fydd problemau wrth gael gwybodaeth am y llwyth, y gyrchfan neu’r amserlen
  6. gwirio hygyrchedd y gyrchfan ar gyfer y cerbyd nwyddau neu’r tancer
  7. nodi gofynion penodol y cwsmer neu ofynion penodol y llwyth ar gyfer llwytho/dadlwytho’r cerbyd nwyddau neu’r tancer
  8. nodi’r gofynion ar gyfer monitro’r llwyth wrth ei gludo
  9. cael gwybodaeth am y gofynion ar gyfer amseru’r dosbarthu neu’r casglu
  10. asesu unrhyw wybodaeth ddiweddar neu newidiadau i wybodaeth a allai effeithio ar gyrraedd y gyrchfan a chyflawni’r amserlen
  11. cyfathrebu’r holl wybodaeth yn ymwneud â’r llwyth i gydweithwyr a chwsmeriaid perthnasol
  12. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chasglu a dosbarthu’r llwyth y mae’r cerbyd nwyddau’n ei gario 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y math o wybodaeth sy’n ofynnol am y llwyth i gael ei gasglu a/neu ei ddosbarthu gan gerbyd nwyddau neu dancer (e.e., gofynion tymheredd, nodweddion llwyth)
  2. ble i gael gwybodaeth am y llwyth a phwy sydd angen y wybodaeth yma 
  3. y math o wybodaeth sy’n ofynnol am gyrchfan y llwyth a’r amserlen
  4. y camau i’w cymryd os nad ydych yn gallu cael gwybodaeth am y llwyth, y gyrchfan neu’r amserlen
  5. y mathau o ofynion a allai fod ar gyfer llwytho/dadlwytho neu fonitro’r llwyth wrth gludo gan gerbyd nwyddau neu dancer
  6. y mathau o broblemau a allai ddigwydd gyda’r llwyth fyddai’n gofyn am fonitro
  7. gofynion y cwsmer ar gyfer cyrraedd y gyrchfan ac amseriad y dosbarthu neu’r casglu, yn cynnwys newidiadau i’r amserlen
  8. ble i gael gwybodaeth ddiweddar a allai effeithio ar y gyrchfan a’r amserlen sydd yn cael ei chyflawni, a sut i’w defnyddio
  9. y mathau o broblemau a allai ddigwydd gyda’r gyrchfan a’r amserlen
  10. sut i gyfathrebu’r mathau gwahanol o wybodaeth am y llwyth i gydweithwyr a chwsmeriaid perthnasol, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer hyn
  11. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chasglu a dosbarthu’r llwyth sydd yn cael ei gario gan gerbyd nwyddau neu dancer 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


  • Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
  • Cwsmeriaid: mewnol, allanol
  • Cyrchfan: man dosbarthu, man casglu
  • Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol
  • Gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau, powdrau, deunydd gronynnol, mwynau, hylifau, nwyon, ac ati
  • Llwytho/dadlwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol
  • Amserlen: amser casglu, amser dosbarthu, dilyniant gyrru, llwybr, amseru, arosfannau
  • Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tancer, cyfarpar ategol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV6

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

gwybodaeth; casglu; dosbarthu; llwythi