Gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd

URN: SFLDGV5
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Cludwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd. Mae’n cynnwys defnyddio rheolyddion cerbyd i gynyddu diogelwch ac effeithlonrwydd tanwydd, a gwybodaeth am y ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd tanwydd a diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd. Bydd tanwydd yn cynnwys petrol, diesel, hybrid, trydanol, a chell tanwydd hydrogen.

Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. monitro ac addasu i newidiadau mewn amodau gyrru tra’n gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd

  2. monitro ac addasu i newidiadau yn symudiad y llwyth sydd yn cael ei gario tra’n gyrru

  3. monitro sefydlogrwydd y llwyth tra’n gyrru
  4. monitro ac ymateb i unrhyw beryglon posibl gan y llwyth tra’n gyrru
  5. monitro ac ymateb i unrhyw beryglon posibl ar y ffordd gyhoeddus neu’r ardaloedd cyfagos
  6. gosod y cerbyd nwyddau a chymhwyso disgyblaeth lonydd i gynnal eich diogelwch eich hun a defnyddwyr eraill y ffordd, yn unol â’r amodau gyrru, y cerbyd nwyddau a’r llwyth sydd yn cael ei gario
  7. rhoi’r arwyddion cywir i ddefnyddwyr eraill y ffordd, mewn pryd, fel eu bod yn ymwybodol o’r symudiadau yr ydych yn bwriadu eu gwneud
  8. gyrru’r cerbyd nwyddau ar y cyflymder gofynnol ar gyfer yr amodau gyrru ac mewn ffordd sy’n lleihau’r defnydd o danwydd a thraul ar y cerbyd a systemau brecio
  9. cynnal sefydlogrwydd y llwyth tra’n gyrru ar y cyflymder gofynnol mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd
  10. defnyddio’r brêcs i arafu neu ddod â’r cerbyd nwyddau i stop yn gyfan gwbl, mewn ffordd wedi ei reoli sy’n berthnasol i’r amodau gyrru, y pellter sydd ar gael, y cerbyd a’r llwyth sydd yn cael ei gario
  11. goddiweddyd defnyddwyr eraill y ffordd mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd, yn unol ag amodau’r ffordd a chan gynnal diogelwch
  12. rheoli cyflymder a safle’r cerbyd nwyddau wrth wneud symudiadau
  13. cymryd camau ataliol i osgoi niwed i unrhyw ddefnyddwyr eraill y ffordd
  14. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwy i’w hysbysu os oes newidiadau yn yr amserlen yn deillio o amodau gyrru, a allai effeithio ar effeithlonrwydd tanwydd

  2. nodweddion y llwyth sydd yn cael ei gario

  3. sut i nodi ac addasu arddulliau gyrru i newidiadau mewn amodau gyrru
  4. sut i nodi ac addasu arddulliau gyrru i newidiadau yn symudiad y llwyth
  5. sut i gynnal sefydlogrwydd y llwyth wrth deithio
  6. y weithdrefn iechyd a diogelwch gywir ar gyfer ymdrin â symudiad neu ollyngiadau’r llwyth sydd yn cael ei gario
  7. sut gallai gweithredoedd defnyddwyr eraill y ffordd achosi colli rheolaeth o’r cerbyd nwyddau
  8. sut i nodi pan fydd defnyddwyr eraill y ffordd ar fin newid cyfeiriad a chyflymder
  9. sut i osod y cerbyd nwyddau ar y ffordd i sicrhau eich diogelwch eich hun a defnyddwyr eraill y ffordd
  10. pryd i ddefnyddio arwyddion i nodi newid safle
  11. sut dylid newid cyflymder y cerbyd nwyddau i fodloni mathau gwahanol o amodau ffordd, i gynnal sefydlogrwydd y llwyth a’r defnydd o danwydd
  12. sut i ddefnyddio’r rheolyddion a gêrs y cerbyd i addasu cyflymder a gyrru mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd
  13. sut i asesu a chynnal pellterau gwahanu diogel
  14. y ffactorau sy’n effeithio ar bellterau stopio’r cerbyd nwyddau
  15. y math o beryglon sydd yn gysylltiedig â goddiweddyd, pryd ddylai goddiweddyd ddigwydd, a phryd na ddylai ddigwydd
  16. y ffactorau sy’n effeithio ar y pellter sy’n ofynnol i oddiweddyd defnyddwyr eraill y ffordd
  17. y mathau o beryglon a allai ddigwydd ar ffyrdd cyhoeddus
  18. sut i ddefnyddio rheolyddion y cerbyd nwyddau i addasu brecio o dan amodau ffordd gwahanol
  19. yr effaith y gallai brecio sylweddol ei gael ar sefydlogrwydd y llwyth, addasrwydd y cerbyd nwyddau a’r defnydd o danwydd
  20. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gweithredu perthnasol sy’n ymwneud â gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

  • Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol

  • Tanwydd: Hybrid, Trydanol, Cell tanwydd hydrogen, petrol a diesel

  • Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol

  • Peryglon: cyflwr y ffordd, tywydd, amodau traffig, trefn y ffordd, dodrefn stryd, tirwedd, cerddwyr

  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau ac ati

  • Sefydliad: y cwmni yr ydych yn gyrru iddo neu eich busnes eich hun

  • Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV5

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

effeithlon o ran tanwydd; gyrru; cerbydau nwyddau