Symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer mewn gofod cyfyngedig

URN: SFLDGV4
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â symud cerbyd nwyddau neu dancer mewn unrhyw ofod cyfyngedig, naill ai ar ffordd gyhoeddus, mewn canolfan neu ar eiddo’r cwsmer. Mae’n cynnwys y gwiriadau y mae angen i yrrwr eu gwneud cyn bod symudiad yn cael ei wneud a’r ffordd i symud yn ddiogel.


Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau neu danceri, a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau a ddefnyddir mewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​nodi unrhyw beryglon cyn symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer   
  2. gwybod pan fydd y gofod sydd ar gael i symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn gyfyngedig
  3. cynllunio sut byddwch yn gwneud y symudiad gofynnol yn y gofod cyfyngedig
  4. rhoi arwydd o’r bwriad i symud mewn digon o amser i ddefnyddwyr eraill y ffordd ymateb
  5. monitro gweithredoedd defnyddwyr eraill y ffordd trwy gydol y symudiad, gan ystyried unrhyw newidiadau i’r gofod yr ydych yn ceisio symud i mewn iddo
  6. symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer ar gyflymder priodol ar gyfer y cerbyd, ei lwyth a’r gofod cyfyngedig y mae’r cerbyd yn ceisio symud ynddo
  7. cynnal eich diogelwch eich hun, y llwyth, y cerbyd a defnyddwyr eraill y ffordd a’r amgylchedd cyfagos wrth symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn y gofod cyfyngedig
  8. cwblhau’r symudiad fel bod y cerbyd nwyddau neu’r tancer mewn safle addas ar gyfer y gweithgaredd gofynnol
  9. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer mewn gofod cyfyngedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. dimensiynau’r cerbyd nwyddau neu’r tancer, ei nodweddion trin ac unrhyw hongian drosodd ar y cefn neu’r ochrau a allai effeithio ar symud, ac unrhyw addasiadau cerbyd a allai gyfyngu ar symudiad a chyflymder
  2. Y cliriadau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y cerbyd nwyddau neu’r tancer i gynnal y gweithgaredd gofynnol
  3. y mathau a nodweddion y gofod cyfyngedig a allai effeithio ar symud
  4. yr hyn sydd angen ei ystyried wrth gynllunio sut i wneud y symudiad angenrheidiol yn y gofod cyfyngedig, a phryd gallai fod angen cymorth
  5. yr addasiadau i’r cerbyd neu’r cyfarpar a allai gynorthwyo neu effeithio ar symud
  6. y mathau o arwyddion y gellir eu defnyddio wrth symud
  7. yr arsylwadau sydd yn ofynnol i gynnal eich diogelwch eich hun, y llwyth, y cerbyd, defnyddwyr eraill y ffordd a’r amgylchedd cyfagos, wrth symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn y gofod cyfyngedig
  8. y mathau o beryglon a allai ddigwydd wrth symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn y gofod cyfyngedig
  9. effeithiau defnyddio’r cyflymder anghywir wrth symud
  10. beth i’w ystyried wrth nodi lle addas i osod y cerbyd nwyddau neu’r tancer ar gyfer y gweithgaredd
  11. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer mewn gofod cyfyngedig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

  • Gweithgaredd: llwytho, dadlwytho, ail-lenwi â thanwydd, parcio, cynnal a chadw
  • Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Cerbyd nwyddau neu dancer: y cerbyd nwyddau neu’r tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys yr ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol
  • Peryglon: cyflwr y ffordd, amodau traffig, trefn y ffordd, dodrefn stryd, tirwedd, cerddwyr, defnyddwyr eraill y ffordd
  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw’n fwyd ac ati

  • Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau am yn ôl, troi

  • Gofod cyfyngedig: gofod bach, mannau anodd i fynd iddynt, gofod â mannau y mae’n anodd i gerbydau gael mynediad iddynt, gofod ag uchder a mynedfeydd cyfyngedig, gofod oddi ar y ffordd/priffordd heb unrhyw dramwyfa, gofod a rennir
  • Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed
  • Gofod: safleoedd diwydiannol/masnachol, safleoedd manwerthu, ffordd gyhoeddus, ardaloedd parcio, modurdai, priffordd gyhoeddus

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV4

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

symud; cerbydau nwyddau; tanceri; gofod cyfyngedig