Gweithredu a monitro systemau cerbydau nwyddau

URN: SFLDGV3
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu a monitro systemau cerbydau nwyddau.


Mae’r safon hon yn cynnwys defnyddio offerynnau i fonitro’r cerbyd ac unrhyw gyfarpar sydd wedi ei osod arno, fel oergell. Mae’n cynnwys gweithredoedd y gall fod eu hangen ar y gyrrwr os bydd problemau’n digwydd a sut dylid adrodd ar y rhain. Mae hefyd yn cynnwys gwefru/ail-lenwi cerbydau nwyddau â thanwydd yn ddiogel.

Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​monitro offerynau cerbydau nwyddau bob amser neu ar adegau wrth yrru a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol, gan ddilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  2. monitro unrhyw offerynnau sydd yn dangos cyflwr y llwyth a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol, gan ddilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  3. monitro’r lefelau tanwydd, gwefru a hylif arall y cerbyd nwyddau
  4. gweithredu systemau dosbarthu tanwydd yn ddiogel i ail-lenwi’r cerbyd nwyddau â thanwydd yn ddiogel
  5. ychwanegu hylifau cerbyd eraill fel y bo angen
  6. gweithredu’r rheolyddion cerbyd nwyddau mewn ffordd sydd yn cynnal eich diogelwch a’ch diogeledd chi, y cerbyd nwyddau, y llwyth a defnyddwyr eraill y ffordd
  7. cymryd camau perthnasol i leihau traul ar systemau cerbydau nwyddau
  8. cymryd y camau gofynnol pan fydd ffactorau’n effeithio ar y cerbyd nwyddau, neu faterion gyda systemau cerbydau nwyddau, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  9. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gweithredu a monitro systemau cerbydau nwyddau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​diben a swyddogaethau offerynnau cerbydau nwyddau
  2. sut i fonitro offerynnau cerbydau nwyddau a phryd mae angen gweithredu
  3. y mathau gwahanol o danwydd, ychwanegion, olew, dŵr a gofynion hylif eraill y cerbyd nwyddau sydd yn cael ei yrru
  4. sut i wefru neu ail-lenwi’r cerbyd nwyddau â thanwydd
  5. sut i ychwanegu ychwanegion tanwydd, olew, dŵr a hylifau cerbyd eraill
  6. sut i weithredu rheolyddion y cerbyd nwyddau mewn ffordd sydd yn cynnal eich diogelwch a’ch diogeledd eich hun, y cerbyd nwyddau, y llwyth a defnyddwyr eraill y ffordd, ac yn lleihau traul ar systemau cerbydau nwyddau
  7. y ffactorau a’r math o faterion a allai effeithio ar y cerbyd nwyddau neu systemau’r cerbyd nwyddau a’r camau y dylid eu cymryd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gweithredu a monitro systemau cerbydau nwyddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

  • Ychwanegion: AdBlue, hylif brecio, oerydd, olew injan, hylif golchi sgrin

  • Rheolyddion: cyflymydd, cydiwr, brêc troed, brêc llaw, olwyn lywio, gêrs, cyfeirwyr, goleuadau, sychwyr ffenestri, diniwlwyr, gwres ac awyru, Esgynfa Bŵer (PTO), clo differol, brecio injan

  • Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Cerbyd nwyddau: y cerbyd masnachol yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar atodol

  • Offerynnau: mesurau, goleuadau rhybudd, arddangosiadau, rhybuddion sain, tacograff, dangosyddion pwysedd teiars, lefelau oeryddion, lefelau olew, pwysedd aer, mesurydd ychwanegion, mesurydd gwefru

  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau, hylifau mewn swmp ac ati
  • Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed
  • Systemau: taniwr, goleuadau trydan, brêcs, trawsyriant, injan, tanwydd, teiars, cyplysu, technoleg gwybodaeth, digidol, systemau cyfathrebu a thelemetreg, cyfarpar atodol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV3

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Gweithredol, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

gweithredu; monitro; cerbyd; systemau