Derbyn a storio nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu

URN: SFLBW6
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â derbyn a storio nwyddau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu. Mae toll yn fath o dreth a godir ar nwyddau tollau pan fyddant yn mynd trwy bwynt tollau ac yn daladwy i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud â HMRC a’r gofynion cyfreithiol ar gyfer storio nwyddau tollau mewn lleoliadau diogel sydd yn addas at y diben. Bydd defnyddwyr y safon hon yn sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf, polisïau, gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth mewn perthynas â gofynion cyllid a thollau.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr warws mewn gweithrediadau logisteg ac yn ymwneud â phersonél eraill sydd yn gysylltiedig â derbyn a storio nwyddau lle mae’r doll wedi ei hatal a’i thalu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau tasgau, blaenoriaethau a chyfrifoldebau gyda’r person perthnasol mewn perthynas â derbyn a storio nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal neu wedi ei thalu
  2. dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn ymwneud â Chyfarpar Diogelu Personol (PPE), symud, trin a derbyn nwyddau tollau, a rhoi’r nwyddau tollau yn yr ardaloedd neu’r lleoliadau storio angenrheidiol
  3. gwirio eitemau sy’n cael eu dosbarthu yn erbyn y nodyn dosbarthu a’r archeb wreiddiol 
  4. nodi, cofnodi ac adrodd ar anghysondebau wrth y person perthnasol
  5. cadarnhau bod yr holl eitemau wedi cael eu derbyn a’u bod yn unol â gofyniad yr archeb a llofnodi ar gyfer yr archeb a dderbyniwyd 
  6. nodi’r ardaloedd storio neu’r lleoliadau perthnasol ar gyfer y nwyddau tollau a dderbyniwyd
  7. rhoi’r nwyddau tollau a dderbyniwyd yn yr ardaloedd storio neu’r lleoliadau angenrheidiol yn unol â gofynion sefydliadol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) perthnasol
  8. ystyried gofynion storio sy’n cefnogi cylchdroi stoc nwyddau tollau
  9. hysbysu’r person perthnasol am argaeledd nwyddau tollau ar gyfer archeb frys neu ddyledus
  10. dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer storio, rheoli a gwaredu nwyddau peryglus yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)  
  11. archwilio ardaloedd neu leoliadau storio i gadarnhau eu bod yn bodloni gofynion, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. gwirio nwyddau tollau, yn cynnwys cyfeiriadau cylchdroi stoc, yn unol â gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a gofynion sefydliadol
  13. nodi a thrin problemau yn yr ardaloedd neu’r lleoliadau storio a’r amgylchedd cyfagos
  14. prosesu ceisiadau i adalw neu rybuddion am ffugio ar gyfer nwyddau tollau yn unol â gofynion sefydliadol
  15. cwblhau’r holl ddogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a gweithdrefnau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. eich cyfrifoldebau a deddfwriaeth gyfredol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a’r Hysbysiadau Tollau sy’n berthnasol i dderbyn, storio a chynnal nwyddau tollau lle mae’r doll wedi ei hatal ac wedi ei thalu
  2. y gofynion ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a’r dulliau ar gyfer cynnal a chadw eich cyfarpar a’r ardal waith
  3. y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer storio nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal ac wedi ei thalu yn ddiogel
  4. sut i reoli sylweddau peryglus, a’r gofynion iechyd a diogelwch yn ymwneud â nwyddau tollau lle mae’r doll wedi ei thalu neu wedi ei hatal
  5. sut i gofnodi ac adrodd ar anghysondebau yn unol â gofynion a gweithdrefnau sefydliadol, a phwysigrwydd gwneud hynny
  6. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol yn ymwneud â derbyn, storio, samplu a chynnal nwyddau tollau mewn warws, yn cynnwys gwaredu nwyddau tollau y mae eu dyddiad wedi dod i ben, sydd wedi eu niweidio neu eu halogi ac sydd mewn cwarantîn
  7. y gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i dderbyn nwyddau tollau, yn cynnwys ond derbyn nwyddau a nodir ar yr archeb wreiddiol, dyddiadau dod i ben a rhifau swp
  8. y camau i’w cymryd os bydd adalwadau neu rybuddion am ffugio yn cael eu derbyn
  9. y gofynion storio a diogelwch ar gyfer nwyddau tollau 
  10. sut i storio nwyddau tollau yn yr ardaloedd neu’r lleoliadau storio diogel angenrheidiol
  11. rôl a diben system derbyn nwyddau tollau a sut mae’n cefnogi gweithrediadau dyddiol
  12. sut i reoli nwyddau tollau, yn cynnwys cyfeiriadau at gylchdroi stoc, cylchdroi nwyddau tollau, rheoli dyddiadau dod i ben nwyddau tollau, a sut i nodi nwyddau tollau sydd wedi eu niweidio, eu halogi neu sydd wedi dirywio
  13. y camau i’w cymryd ar gyfer nwyddau tollau sydd y tu hwnt i’r dyddiad dod i ben, wedi eu niweidio, eu halogi, sydd â rhif swp anghyson neu rif swp lle mae adalwadau neu rybuddion am ffugio wedi cael eu cyhoeddi
  14. sut i roi gwybodaeth a data nwyddau tollau i mewn a’i hadfer yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  15. sut i gynnal dogfennau yn cynnwys systemau wrth gefn eich sefydliad yn achos methiant TGCh


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Anghysondebau: unrhyw wahaniaethau rhwng yr hyn a ddisgwylir a’r hyn a gofnodir yn y system rheoli nwyddau

Nwyddau ble mae’r doll wedi ei hatal: unrhyw nwyddau tollau ble nad yw toll y DU wedi cael ei thalu

Nwyddau tollau: unrhyw nwyddau neu eitemau sydd yn cael eu storio yn y warws sydd yn denu tollau cartref

Sylweddau peryglus: gwirodydd, tanwydd tanwyr, batris oriorau ac ati

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): corff gwarchod annibynnol cenedlaethol ar gyfer iechyd, diogelwch a salwch yn ymwneud â gwaith. Mae’n gweithredu er budd y cyhoedd i leihau marwolaeth ac anafiadau difrifol yn ymwneud â gwaith ar draws gweithleoedd Prydain Fawr

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warws tollau a chyllid (ar wahân, ond a elwir ar y cyd yn storfa’r tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau cysylltiedig, yn y DU

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): dillad a chyfarpar diogelu personol, dillad gwaith brand

Adalwadau neu rybuddion am ffugio: gwybodaeth a anfonir i’r sefydliad mewn perthynas ag amheuaeth o ffugio nwyddau, neu’n ymwneud â nwyddau nad ydynt yn cydymffurfio â safonau diogelwch presennol ar gyfer defnydd gan bobl

Person perthnasol: goruchwyliwr, rheolwr llinell, cydweithiwr

Ardaloedd neu leoliadau storio: ardaloedd gwaith mewn cawell/diogel, cyfleusterau warws llawn a chyfleusterau warws storio rhannol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLBW6

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Mewnforio, Storio a Manwerthu, Trin a Storio Nwyddau

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

warws; tollau; storio; tollau; nwyddau; derbyn; toll wedi ei hatal; toll wedi ei thalu; Hysbysiadau Tollau