Rheoli awdurdodi, gwarantau a chymeradwyo ar gyfer eiddo warws tollau

URN: SFLBW1
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli awdurdodi, gwarantau a chymeradwyo ar gyfer eiddo warws tollau. Mae’n cynnwys cadarnhau bod yr holl gofrestriadau, cymeradwyo a’r gwarantu wedi eu sefydlu. Mae rheolaeth awdurdodiadau yn tanategu cydymffurfio â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) a gofynion deddfwriaethol perthnasol eraill.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob unigolyn sydd yn gysylltiedig â rheoli gweithrediadau warws tollau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. rheoli awdurdodiad presennol gofalwr warws tollau ar gyfer eich sefydliad a’ch eiddo
  2. rheoli cymeradwyo presennol warws tollau a nwyddau lle mae’r doll wedi cael ei hatal ar gyfer eich sefydliad
  3. cadarnhau bod yr eiddo warws tollau yn cydymffurfio â’r amodau a nodir yn y gyfraith, Hysbysiad Tollau 196 Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi  (HMRC) a'r holl amodau perthnasol eraill sydd yn cael eu gosod
  4. cynnal yr adolygiadau a’r archwiliadau gofynnol o ran amodau cymeradwyo i gadarnhau cydymffurfio parhaus â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. hysbysu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) pan fydd newidiadau i weithgareddau busnes eich sefydliad
  6. cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy i gadarnhau bod cwsmeriaid yn fasnachwyr dilys ac yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran nwyddau tollau
  7. sicrhau bod gan gwsmeriaid gymeradwyaeth berthnasol i dderbyn a storio’r categori perthnasol o nwyddau tollau
  8. monitro gofynion ar gyfer mathau eraill o awdurdodi a chymeradwyo
  9. rheoli gwarantau i gynnwys eiddo a symud nwyddau ble mae’r doll wedi cael ei hatal
  10. cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer eiddo warws tollau
  11. sicrhau bod yr holl hysbysiadau cyhoeddus perthnasol yn cael eu cynnal, eu bod yn hygyrch ac yn gyfredol              


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y dyletswyddau a’r amodau y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn eu gwneud yn ofynnol i ofalwyr warws tollau
  2. sut i reoli awdurdodi, gwarantau a chymeradwyo ar gyfer eiddo warws tollau
  3. y mathau o gymeradwyo eiddo a ddelir gan eich sefydliad a’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â chymeradwyo
  4. yr amodau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol a nodir yng nghymeradwyaeth eich sefydliad ar gyfer eiddo a gweithgareddau warws tollau
  5. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer parhau i gydymffurfio, gan ystyried newidiadau perthnasol i ddeddfwriaeth, rheoliadau a Hysbysiadau Tollau, ac unrhyw gamau adfer angenrheidiol
  6. y gweithdrefnau ar gyfer diwygio cymeradwyo a phwy i gysylltu â nhw
  7. canlyniadau peidio â dilyn diwydrwydd dyladwy a chydymffurfio
  8. y mathau gwahanol o gymeradwyo ac awdurdodiad sydd ar gael ar gyfer eiddo warws tollau a buddion a chyfyngiadau pob un
  9. y mathau a'r lefelau o warantau, e.e. TAW Mewnforio wedi ei Symleiddio (SIVA), System Ddiogelwch Taliadau Tollau (EPSS), ac adolygu’r gofynion graddfeydd amser ar gyfer y rhain
  10. ble i gael gafael ar wybodaeth am y ddeddfwriaeth a'r Hysbysiadau Tollau perthnasol ar gyfer eiddo warws tollau a goblygiadau peidio â chydymffurfio
  11. sut i gynnal ac arddangos hysbysiadau cyhoeddus yn y gweithle a pham y mae hyn yn bwysig


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Awdurdodiad: unrhyw gymeradwyaeth neu gofrestriad a ddarperir gan HMRC i alluogi trin nwyddau ble mae’r doll wedi cael ei hatal

Amodau cymeradwyo: unrhyw amodau a nodir yn y llythyr cymeradwyo warws neu ddogfennau eraill

Diwydrwydd dyladwy: camau rhesymol a gymerir gan berson i osgoi  cyflawni trosedd; i bob busnes gynnal gwiriadau i sefydlu hygrededd a dilysrwydd eu cyflenwadau, eu cwsmeriaid a’u cyflenwyr

Gohirio toll: system lle mae HMRC yn caniatáu dyledion tollau cartref mewn cyfnod dychweliad i gronni a chael eu talu trwy ddebyd uniongyrchol ar ddyddiadau penodedig ar ôl diwedd y cyfnod. Mae’n fath o gytundeb credyd a warentir gan warant ariannol a ddarperir gan ddeiliad cyfrif y gohiriad

Atal toll: unrhyw nwyddau tollau lle mae tollau’r DU heb gael eu talu

Nwyddau tollau: nwyddau sydd yn destun tollau cartref e.e. cwrw, gwin, gwneud-win, seidr, sieri, gwirodydd, olewau mwynau, sigaréts a chynnyrch tybaco eraill

System Diogelwch Taliad Tollau (EPSS): system lle mae HMRC yn caniatáu cais deiliad cyfrif wedi ei ohirio i leihau neu ddileu eu gwarant gohirio tollau ar ôl adolygu hanes taliadau

Warws tollau: lle wedi ei gymeradwyo gan HMRC ar gyfer cadw nwyddau lle mae tollau cartref a TAW wedi ei atal

Gofalwr warws tollau: deiliad awdurdodedig a chofrestredig o warws tollau, yn unol â ‘Rheoliadau gofalwr warws a Pherchnogion Nwyddau Warws 1999'

Gwarant: ymgymeriad a roddir gan y gwarantwr i dalu swm o arian i HMRC hyd at lefel y gwarant pan fyddant yn gwneud cais am daliad o’r fath
 
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warws tollau a chyllid (ar wahân, ond a elwir ar y cyd yn storfa’r tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau cysylltiedig, yn y DU

TAW Mewnforio wedi ei Symleiddio (SIVA): cynllun i alluogi TAW mewnforio i gael ei ohirio gyda diogelwch gostyngol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLBW1

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

warws; storio; nwyddau; awdurdodiad; toll wedi ei thalu; toll wedi ei hatal; toll wedi ei gohirio; Hysbysiadau Tollau