Dewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau

URN: SFL67
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol berthnasol ar gyfer cludo nwyddau ac unrhyw ofynion arbennig sydd eu hangen gan y nwyddau sy’n cael eu cludo.

Bydd angen i chi hefyd allu cyfathrebu gyda’r bobl briodol a datrys unrhyw faterion a allai ddigwydd wrth ddewis darparwyr gwasanaeth o fewn eich cyfrifoldeb.

Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull o gludo neu gyfuniad o ddulliau, h.y. ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu cludo nwyddau mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Adolygu’r holl gyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo
  2. Cadarnhau’r meini prawf sefydliadol ar gyfer dewis darparwyr gwasanaeth i gludo’r nwyddau gan ddefnyddio’r llwybrau a’r dulliau cludo a ddewiswyd
  3. Nodi darparwyr gwasanaeth posibl sy’n bodloni’r meini prawf sefydliadol ar gyfer nwyddau, yn unol â gofynion y cwsmer
  4. Cael gwybodaeth am y cyfraddau, y telerau a’r amodau y mae darparwyr y gwasanaeth yn eu cynnig
  5. Cadarnhau gyda darparwyr y gwasanaeth y byddant yn cludo’r nwyddau yn unol â gofynion y cwsmer
  6. Dewis darparwyr gwasanaeth i gludo’r nwyddau yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu sefydlu
  7. Nodi unrhyw broblemau gyda darparwyr y gwasanaeth a chymryd y camau priodol i ymdrin â’r rhain
  8. Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  9. Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Cyfarwyddiadau a manylion cludo perthnasol y nwyddau sy’n cael eu cludo
  2. Y meini prawf sefydliadol ar gyfer dewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau
  3. Y systemau ar gyfer cyflwyno archebion gyda darparwyr y gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau
  4. Manteision ac anfanteision dulliau cludo gwahanol a’r effaith y mae bob un yn ei gael ar yr amgylchedd
  5. Y llwybrau, hybiau trafnidiaeth, a’r cyrchfannau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, wrth ddewis y dulliau ar gyfer cludo nwyddau
  6. Rôl y cyrff rheoliadol, sefydliadau a’r asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol yn symud nwyddau, a’u gofynion cydymffurfio
  7. Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan y cwsmeriaid cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a’r rhanddeiliaid perthnasol 
  8. Y mathau o wybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol gan y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau cludo a llwybrau teithio
  9. Y telerau masnach a’r safonau rhyngwladol perthnasol ar gyfer cario, yswiriant a chostau llwythi (Incoterm)
  10. Y materion all ddigwydd wrth ddewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau a sut i ymdrin â’r rhain
  11. Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau wrth gludo yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  12. Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan eich sefydliad
  13. Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth ddewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau
  14. Y safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol i’w dilyn wrth gludo nwyddau 


Cwmpas/ystod


Nwyddau
nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
cynnyrch nad yw’n beryglus
darfodus (bwyd)
nwyddau i’w hatgyfeirio/dychwelyd
nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos
 

Cyfarwyddiadau cludo
amser
dull cludo
cost

Rhanddeiliaid
cyflenwyr 
swyddogion 
cyrff rheoliadol

Dull cludo
llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo llwythi a rholio ymlaen/rholio i ffwrdd
awyr
môr
rheilffordd
ffordd 


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Incoterm
Telerau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterm yn esbonio set o 3 o delerau yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall mewn contractau ar gyfer gwerthu nwyddau.  Mae rheolau Incoterm yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL67

Galwedigaethau Perthnasol

Gweinyddu a’r Gyfraith, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes

Cod SOC

1241

Geiriau Allweddol

rhyngwladol; mewnforio; allforio; trafnidiaeth; darparwyr; is-gontractwyr