Trefnu cludo nwyddau ar y rheilffordd
URN: SFL62
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â threfnu cludo nwyddau ar y rheilffordd mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cludo nwyddau ar y rheilffordd ac unrhyw ofynion arbennig sydd eu hangen ar y nwyddau sydd yn cael eu cludo.
Bydd angen i chi hefyd allu cyfathrebu gyda’r bobl briodol a datrys unrhyw faterion a allai ddigwydd wrth drefnu i gludo nwyddau ar y rheilffordd mewn perthynas â chydymffurfio â chontractau a deddfwriaeth, o fewn eich cyfrifoldeb.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu cludo nwyddau ar y rheilffordd mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis trafnidiaeth rheilffordd yn lle dulliau amgen
- Adolygu’r holl gyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau
- sy’n cael eu cludo ar y rheilffordd
- Cyfrifo prisiau cludiant rheilffordd a pharatoi dyfynbrisiau ar gyfer cwsmeriaid
- Adolygu’r contract cludo er mwyn sicrhau cydymffurfio wrth drefnu cludo nwyddau ar y rheilffordd
- Cynllunio ac archebu lle ar wasanaethau rheilffordd yn unol â gweithdrefnau archebu cludiant rheilffordd
- Cadarnhau bod cyfarwyddiadau ar gyfer cludiant rheilffordd yn gywir, yn gyflawn, ac wedi eu darparu yn y dogfennau a’r systemau cywir
- Cadarnhau bod unrhyw ofynion arbennig neu gyfarwyddiadau yn cael eu nodi’n glir
- Darparu gwybodaeth berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau ar y rheilffordd
- Darparu cyfarwyddiadau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau yn unol â’r contract
- Cael mwy o wybodaeth ynghylch sut i fonitro cludo nwyddau ar y rheilffordd
- Monitro cynnydd trefnu cludo nwyddau ar y rheilffordd
- Nodi unrhyw faterion gyda threfnu cludo nwyddau ar y rheilffordd a chymryd y camau priodol i ymdrin â’r rhain
- Hysbysu cwsmeriaid am unrhyw oedi, gan adael digon o amser i ymateb i’r oedi
- Cysylltu â’r goruchwyliwr perthnasol neu’r uwch gydweithiwr os na ellir datrys y materion a nodir
- Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y derminoleg a ddefnyddir mewn trafnidiaeth rheilffordd
- Y tueddiadau presennol mewn trafnidiaeth rheilffordd rhyngwladol
- Y cyfarwyddiadau trafnidiaeth perthnasol a manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo
- Pwysigrwydd adolygu a chydymffurfio â thelerau ac amodau contract wrth drefnu cludo nwyddau ar y rheilffordd
- Manteision ac anfanteision defnyddio trafnidiaeth rheilffordd a’r mathau gwahanol o stoc treigl a ddefnyddir a’r effaith y mae’n ei gael ar yr amgylchedd
- Pwysigrwydd cynnal ymwybyddiaeth amgylcheddol busnes er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
- Rheoliadau a chyfyngiadau trafnidiaeth rheilffordd wrth gludo nwyddau, yn cynnwys symud nwyddau peryglus
- Y llwybrau a’r hybiau rheilffordd cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol
- Rôl sefydliadau ac asiantaethau’r cyrff rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol yn symud nwyddau ar y rheilffordd a’u gofynion cydymffurfio
- Y math o wybodaeth sy’n ofynnol a’r dogfennau perthnasol a ddefnyddir mewn trafnidiaeth rheilffordd rhyngwladol
- Ble i gael gafael ar wybodaeth am y diwydiant a data o systemau’n ymwneud â’r mathau o nwyddau i gael eu cludo, amserlenni a’r gofod sydd ar gael
- Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid, cyflenwyr a chyrff swyddogol a rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol
- Y mathau o faterion sydd yn gallu digwydd wrth drefnu cludo nwyddau ar y rheilffordd a phwysigrwydd cyfathrebu unrhyw fanylion i’r cwsmer mewn ffordd ragweithiol, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i’r materion hyn
- Pwysigrwydd dilyn y gofynion arbennig sydd eu hangen gan nwyddau a chymysgedd gwahanol o nwyddau
- Pwysigrwydd, a’r rhesymau dros, ddarparu cyfarwyddiadau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau
- Y prosesau a’r gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â threfnu a monitro cludo nwyddau ar y rheilffordd
- Y ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau wrth gludo ar y rheilffordd, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan eich sefydliad
- Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth drefnu cludo nwyddau ar y rheilffordd
- Y safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, deddfwriaethol a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
Nwyddau sydd yn cael eu cludo
• nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
• cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
• cynnyrch nad yw’n beryglus
• darfodus (bwyd)
• nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
• nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos
Gofynion arbennig
• gwahanu
• gofynion amgylcheddol, gwres, oerfel, lleithder
• nwyddau wedi eu cyfyngu
• gofynion llesiant ar gyfer anifeiliaid byw
• cymysgedd o nwyddau
• diogeledd
• datganiadau tollau
Cyfarwyddiadau cludo
• amser
• dull cludo
• cost
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL62
Galwedigaethau Perthnasol
Gweinyddu, Rheoli busnes, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes
Cod SOC
1241
Geiriau Allweddol
trefnu; trafnidiaeth; nwyddau; rheilffordd; logisteg; rhyngwladol; trenau