Trefnu cludo nwyddau drwy’r awyr

URN: SFL61
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â threfnu cludo nwyddau drwy’r awyr mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cludo nwyddau drwy’r awyr ac unrhyw ofynion arbennig fydd eu hangen wrth gludo’r nwyddau.

Bydd angen i chi hefyd allu cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’r cludo a datrys unrhyw faterion a allai godi, wrth drefnu i gludo nwyddau drwy’r awyr mewn perthynas â chydymffurfio â chontractau a deddfwriaeth, o fewn eich cyfrifoldeb.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu cludo nwyddau drwy’r awyr mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis trafnidiaeth awyr yn lle dulliau amgen
  2. Adolygu holl gyfarwyddiadau trafnidiaeth perthnasol y nwyddau
  3. sy’n cael eu cludo drwy’r awyr
  4. Cyfrifo prisiau cludiant awyr a pharatoi dyfynbrisiau ar gyfer cwsmeriaid
  5. Adolygu’r contract cludo er mwyn sicrhau cydymffurfio wrth drefnu i gludo nwyddau drwy’r awyr
  6. Cynllunio ac archebu gofod llwyth ar wasanaethau awyr yn unol â gweithdrefnau archebu llwyth awyr 
  7. Cwblhau dogfennau cludo cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cludo drwy’r awyr, yn unol â gofynion rheoliadol a sefydliadol
  8. Cadarnhau bod cyfarwyddiadau ar gyfer teithio drwy’r awyr yn gywir, yn gyflawn ac yn cael eu darparu yn y dogfennau a'r systemau cywir
  9. Cadarnhau bod unrhyw ofynion arbennig neu gyfarwyddiadau yn cael eu nodi’n glir
  10. Darparu gwybodaeth berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau drwy’r awyr 
  11. Rhoi cyfarwyddiadau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau, yn unol â’r contract
  12. Cael gwybodaeth ynghylch sut i fonitro cludo nwyddau drwy’r awyr
  13. Monitro cynnydd trefnu i gludo nwyddau drwy’r awyr
  14. Nodi unrhyw faterion gyda threfnu i gludo nwyddau drwy’r awyr a chymryd y camau priodol i ymdrin â’r rhain
  15. Hysbysu’r cwsmer am unrhyw oedi, gan ganiatáu digon o amser i ymateb i’r oedi
  16. Cysylltu â’r goruchwyliwr neu’r uwch gydweithiwr perthnasol os nad yw’r materion a nodir yn gallu cael eu datrys
  17. Gwirio bod y dogfennau cludo’n cael eu cadw yn unol â gofynion statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol
  18. Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  19. Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol wrth gludo nwyddau drwy’r awyr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Y derminoleg a ddefnyddir mewn gwasanaethau cludiant awyr 
  2. Y tueddiadau presennol mewn gwasanaethau cludiant awyr rhyngwladol
  3. Y cyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sydd yn cael eu cludo
  4. Pwysigrwydd adolygu a chydymffurfio â thelerau ac amodau contract wrth drefnu i gludo nwyddau drwy’r awyr 
  5. Manteision ac anfanteision defnyddio cludiant awyr, y mathau gwahanol o awyrennau a ddefnyddir a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar yr amgylchedd
  6. Pwysigrwydd cynnal ymwybyddiaeth amgylcheddol busnes er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
  7. Rheoliadau a chyfyngiadau trafnidiaeth awyr wrth gludo nwyddau, yn cynnwys symud nwyddau peryglus
  8. Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau a nwyddau cymysg wrth gludo drwy’r awyr 
  9. Y llwybrau a’r hybiau teithio cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol
  10. Rôl cyrff rheoliadol, sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol yn symud nwyddau drwy’r awyr a’u gofynion cydymffurfio
  11. Y math o wybodaeth sy’n ofynnol a’r dogfennau perthnasol a ddefnyddir, mewn cludiant awyr rhyngwladol
  12. Ble i gael gwybodaeth am y diwydiant a data o systemau’n ymwneud â’r math o nwyddau i gael eu cludo, amserlenni ac argaeledd gofod
  13. Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid cenedlaethol a rhyngwladol a'r rhanddeiliaid perthnasol
  14. Y cynwysyddion awyr gwahanol o’r Dyfeisiadau Llwytho Unedau (ULD) a’u dibenion
  15. Tariff a Rheolau Llwythi Awyr (TACT) a Chanllawiau OAG Llwybrau Awyr y Byd
  16. Y parthau amser a’r amser teithio drwy’r awyr ar gyfer y gyrchfan a'r nwyddau
  17. Daearyddiaeth y byd a ffiniau gwleidyddol sy’n berthnasol i gyrchfan y nwyddau
  18. Y mathau o faterion all godi wrth drefnu cludiant nwyddau drwy’r awyr a phwysigrwydd cyfathrebu unrhyw oedi i’r cwsmer mewn ffordd ragweithiol, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i’r materion 
  19. Pwysigrwydd dilyn y gofynion arbennig sydd eu hangen gan nwyddau a chymysgedd gwahanol o nwyddau
  20. Pwysigrwydd, a’r rhesymau dros, roi cyfarwyddiadau i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau ynghylch marcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau
  21. Y prosesau a’r gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â threfnu a monitro cludo nwyddau drwy’r awyr
  22. Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad
  23. Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth drefnu cludo nwyddau drwy’r awyr
  24. Diogeledd sylfaenol awyrennau
  25. Y gofynion iechyd a diogelwch, y deddfwriaeth, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol


Cwmpas/ystod


Nwyddau
nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
cynnyrch nad ydynt yn beryglus
darfodus (bwyd)
nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos

Gofynion arbennig
gwahanu
gofynion amgylcheddol, gwres, oerfel, lleithder
nwyddau wedi eu cyfyngu
gofynion llesiant ar gyfer anifeiliaid byw
cymysgedd o nwyddau
diogeledd
datganiadau cwsmeriaid

Rhanddeiliaid 
cyflenwyr
swyddogol
cyrff rheoliadol

Cyfarwyddiadau cludo
amser
dull trafnidiaeth
cost


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL60

Galwedigaethau Perthnasol

Gweinyddu, Rheoli busnes, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes

Cod SOC

1241

Geiriau Allweddol

trefnu; trafnidiaeth; nwyddau; awyr; cludiant; logisteg; rhyngwladol