Dewis ac argymell dulliau ar gyfer cludo nwyddau

URN: SFL59
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis ac argymell dulliau ar gyfer cludo nwyddau mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol berthnasol ar gyfer cludo nwyddau ac unrhyw ofynion arbennig sydd gan y nwyddau sydd yn cael eu cludo.

Bydd angen i chi hefyd fod yn gallu cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig neu wedi eu heffeithio gan gludo nwyddau, a datrys unrhyw faterion a allai ddigwydd wrth ddewis dulliau ar gyfer cludo nwyddau, mewn perthynas â chydymffurfio â deddfwriaeth contractau, o fewn eich cyfrifoldeb.

Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull o gludo neu gyfuniad o ddulliau, h.y. ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu bod nwyddau’n cael eu cludo mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Adolygu’r holl gyfarwyddiadau trafnidiaeth a manylion y nwyddau sydd yn cael eu cludo
  2. Nodi ac argymell y dulliau trafnidiaeth mwyaf addas ar gyfer y nwyddau
  3. Dewis y cerbydau a’r cynwysyddion perthnasol ar gyfer cludo’r nwyddau
  4. Argymell y llwybrau trafnidiaeth mwyaf addas i’r nwyddau gyrraedd eu cyrchfan
  5. Dewis y cyfuniad mwyaf addas o ddulliau trafnidiaeth ar gyfer y nwyddau
  6. Nodi unrhyw faterion wrth ddewis y dulliau trafnidiaeth, a chymryd y camau gofynnol i ymdrin â’r rhain
  7. Adrodd am unrhyw newidiadau mewn gofynion ar gyfer cludo nwyddau wrth y rhanddeiliad 
  8. Adrodd am weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth gofynnol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  9. Cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau wrth gludo nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  10. Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol wrth ddewis dulliau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Y cyfarwyddiadau trafnidiaeth perthnasol a manylion y nwyddau sydd yn cael eu cludo
  2. Manteision ac anfanteision dulliau trafnidiaeth gwahanol a’r effaith y maent yn ei gael ar yr amgylchedd
  3. Y mathau o gerbydau a ddefnyddir mewn dulliau trafnidiaeth gwahanol
  4. Y llwybrau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, hybiau trafnidiaeth, a chyrchfannau, wrth ddewis y dulliau ar gyfer cludo nwyddau
  5. Rôl sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol wrth symud nwyddau
  6. Pwysigrwydd dewis y dulliau cywir ar gyfer cludo nwyddau
  7. Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan y sefydliadau a’r asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol sydd yn gysylltiedig â symud nwyddau 
  8. Y dogfennau a’r mathau o wybodaeth sydd yn ofynnol gan y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau trafnidiaeth a llwybrau teithio
  9. Y termau masnach a’r safonau rhyngwladol perthnasol ar gyfer cludo nwyddau, yswiriant a chostau (Incoterm)
  10. Y materion sydd yn gallu digwydd wrth ddewis dulliau ar gyfer cludo nwyddau a sut i ymdrin â’r rhain
  11. Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau wrth gludo nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  12. Y cyrff rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a’u gofynion cydymffurfio
  13. Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer cludo nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  14. Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth ddewis y dull trafnidiaeth
  15. Y safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol


Cwmpas/ystod


Nwyddau
nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
eitemau nad ydynt yn beryglus
darfodus (bwyd)
nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos

Dull trafnidiaeth
Llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo llwythi a RO-RO
Awyr
Môr
Rheilffordd
Ffordd

Cyfarwyddiadau trafnidiaeth
amser
dull trafnidiaeth
cost


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Incoterm

Termau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterm yn esbonio set o dermau masnach 3 llythyren sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall yng nghontractau ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterm yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r risg sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau oddi wrth werthwyr i brynwyr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL59

Galwedigaethau Perthnasol

Gweinyddu, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith

Cod SOC

1241

Geiriau Allweddol

dewis; argymell; dulliau; mathau; llwybr; cyrchfan; rhyngwladol