Gwneud adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith

URN: SFL53
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â gwneud adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith sy’n ofynnol wrth gwblhau amserlen ddosbarthu. Mae’n cynnwys gwirio dogfennau, gwirio cyflwr y cerbyd a chadarnhau bod namau neu niwed wedi cael eu hadrodd. Mae’n cynnwys rheoli llwythi sydd wedi eu dychwelyd ac ailddirprwyo neu aildrefnu’r gyrrwr neu’r cerbyd, os oes angen.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon cludiant ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau bod y cerbyd wedi cael ei ddychwelyd ar ôl taith, yn unol â gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol
  2. cynnal gwiriadau ar gyflwr cerbyd, wrth gwblhau amserlen ddosbarthu
  3. adrodd am namau neu ddiffygion a ganfyddir ar y cerbyd, gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
  4. cynnal gwiriadau ar ddogfennau a chofnodion eraill yn ymwneud â’r gyrrwr a’r cerbyd, gan gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, gweithredol a sefydliadol perthnasol
  5. ailddirprwyo neu aildrefnu gyrwyr a cherbydau o ganlyniad i’r adroddiad a baratowyd gan y gyrrwr
  6. rheoli a threfnu i ddychwelyd llwythi, yn unol â gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol
  7. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu
  8. cyfathrebu gwybodaeth sy’n berthnasol i adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith wrth gydweithwyr a chwsmeriaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​systemau dogfennau eich sefydliad ar gyfer adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith
  2. sut i wneud adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith
  3. gweithdrefnau gwybodaeth, cofnodi a dogfennau eich sefydliad
  4. pwysigrwydd a’r defnydd o delemateg a thacograffau yn yr adroddiad a’r gwiriadau ar ôl taith
  5. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol mewn perthynas â dyrannu adnoddau a gweithdrefnau sefydliadol
  6. sut i aildrefnu neu ailddirprwyo gyrwyr ac amserlenni
  7. y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan y sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid
  8. y materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol perthnasol yn ymwneud â gwiriadau cerbydau ar ôl taith ac aildrefnu cerbydau
  9. y gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud ag adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cwsmeriaid: mewnol ac allanol

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwythi, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth Deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer: oriau a rheoliadau trwydded gyrrwr, gofynion CPC gyrrwr, gofynion trwyddedu y gweithredwr cerbydau, gweithdrefnau gweithredu amgylcheddol, gofynion llwyth peryglus, ADR Cyfathrebu: llafar, ysgrifenedig, electronig

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL53

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

4134

Geiriau Allweddol

trafnidiaeth; cludiant; taith; gwiriadau; adroddiadau