Monitro symudiadau cerbydau
URN: SFL52
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro symudiadau cerbydau. Mae’n cynnwys ymateb i unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar gyfeirio neu drefnu’r cerbyd neu’r llwyth. Mae’n cynnwys hysbysu’r personél perthnasol o’r newidiadau a chadw cofnodion.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio neu anfon cludiant ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r wybodaeth gyfeirio a threfnu ar gyfer symud cerbydau a’u llwythi
- monitro cyfeirio a threfnu cerbydau a’u llwythi ac addasu symudiadau cerbydau mewn ymateb i newidiadau i ofynion cwsmeriaid
- gwneud defnydd o systemau a gwybodaeth telemateg, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, er mwyn monitro symudiadau cerbydau
- monitro cynnydd cerbydau a llwythi ac adrodd am hyn wrth y personél perthnasol
- hysbysu’r personél perthnasol am y newidiadau i gyfeirio a threfnu cerbydau a’u llwythi
- hysbysu cwsmeriaid am newidiadau i gyfeirio a threfnu cerbydau a’u llwythi
- ymateb i faterion a adroddir gan yrwyr mewn perthynas â’u cerbyd, fel cerbydau’n torri i lawr neu amodau traffig
- ymateb i argyfyngau neu ddamweiniau yn cynnwys y cerbyd neu ei lwyth, a threfnu bod y cerbyd/llwyth yn cael ei achub pan fo angen
- cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i ddod o hyd i wybodaeth mewn perthynas â dyrannu adnoddau sy’n ofynnol i fonitro symudiadau cerbydau, ac ymdrin ag unrhyw faterion
- sut i fonitro llwybrau, cyrchfannau, amserlenni dosbarthu a chasglu ar gyfer cerbydau
- y materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol perthnasol yn ymwneud â symud cerbydau
- y dulliau a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer monitro cynnydd cerbydau a’u llwythi
- y defnydd o delemateg wrth fonitro a symud cerbydau
- cyfyngiadau llwybrau, cerbydau, cyfarpar a gyrwyr
- sut i gynorthwyo a chefnogi gyrwyr a’u llwythi pan fydd torri i lawr neu ddamweiniau’n digwydd
- y materion amgylcheddol, economaidd ac effeithlonrwydd yn ymwneud â’r llwyth a’r cerbyd
- ffynonellau gwybodaeth gyfeirio
- y gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â monitro symudiadau cerbydau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmer(iaid): mewnol, allanol
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwythi, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth
Telemateg: defnydd integredig o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL52
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Gyrwyr a Gweithredwyr Dosbarthu
Cod SOC
4134
Geiriau Allweddol
trafnidiaeth; symudiadau ffyrdd; taith; cludiant; monitro