Cydlynu symud llwythi ar y ffordd yn rhyngwladol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chydlynu gweithrediadau trafnidiaeth rhyngwladol ar y ffordd. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth am y cerbyd, y llwyth, y nwyddau sy’n cael eu cludo a gofynion y gyrrwr er mwyn creu dogfennau ar gyfer symud llwythi y tu allan, i mewn ac allan o’r Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chludo nwyddau a gofynion gyrwyr yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys y ddeddfwriaeth a’r gofynion ar gyfer cludo nwyddau ar gyfer gwledydd perthnasol yr Undeb Ewropeaidd a rhai nad ydynt yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bawb sy’n gweithio mewn gweithrediadau logisteg sy’n gyfrifol am gydlynu gweithrediadau trafnidiaeth ar y ffordd neu anfon llwythi ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cael y wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r llwythi i gael eu cludo i mewn ac allan o’r Deyrnas Unedig
cael gwybodaeth am ofynion y gyrrwr, y cerbyd a’r llwyth yn ymwneud â symud nwyddau’n rhyngwladol, yn cynnwys y costau perthnasol
- cadarnhau’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol yn ogystal â’r gweithdrefnau sefydliadol
- cael y dogfennau perthnasol ar gyfer symud llwythi ar y ffordd yn rhyngwladol
- cofnodi gwybodaeth am symud llwythi a gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol a chyfathrebu hyn i gydweithwyr, cwsmeriaid a’r awdurdodau perthnasol
- cadarnhau dyrannu adnoddau ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol
cyhoeddi cyfarwyddiadau a’r dogfennau perthnasol yn ymwneud â symud llwythi yn rhyngwladol, i’r personél gofynnol
cadarnhau bod symud llwythi yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth ffordd a gweithdrefnau sefydliadol rhyngwladol
- cydlynu a monitro symud llwythi’n rhyngwladol a chadw cofnodion yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol
datrys a gweithredu i leihau problemau wrth symud llwythi ar y ffordd yn rhyngwladol
gwneud defnydd o delemateg wrth gydlynu symud llwythi ar y ffordd yn rhyngwladol
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol
- cyfathrebu gyda chydweithwyr a’r personél yn y gadwyn gyflenwi trwy gydol y gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y ffynonellau o’r wybodaeth berthnasol a’r dogfennau ar gyfer symud llwythi’n rhyngwladol
y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol yn ymwneud â gweithrediadau trafnidiaeth ffordd a symud llwythi’n rhyngwladol
- y math o lwyth a nodweddion y cludiant i gael ei symud
- y dogfennau perthnasol a sut i gwblhau hyn ar gyfer symud llwythi ar y ffordd yn rhyngwladol
- y cofnodion sy’n ofynnol ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol a phwysigrwydd cyfathrebu’r rhain i’r personél gofynnol
- y mathau o gerbydau i gael eu defnyddio ar gyfer cludo llwythi gwahanol a sut mae’r rhain yn effeithio ar gostau gweithrediadau trafnidiaeth ffordd
- y sgiliau, y cymwysterau a’r gofynion trwydded perthnasol ar gyfer gyrwyr sydd yn cludo nwyddau’n rhyngwladol
- y cyfarwyddiadau a’r dogfennau i gael eu cyhoeddi i’r personél perthnasol
- y gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol i barhau i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol mewn gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol
sut i gydlynu a monitro gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol
- y gyrrwr, y mathau o gerbydau a’r adnoddau o ran cyfarpar sydd ar gael ar gyfer symud llwythi’n rhyngwladol
- y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth symud llwythi yn rhyngwladol a sut i ddatrys y rhain
- y gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gweithrediadau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer: oriau’r gyrrwr a rheoliadau trwydded, gofynion DPP gyrrwr, FOR, gofynion trwyddedu’r gweithredwr cerbydau, gweithdrefnau gweithredu amgylcheddol, gofynion llwyth peryglus, ADR