Creu costau ar gyfer trafnidiaeth cludo nwyddau

URN: SFL48
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu costau ar gyfer trafnidiaeth cludo nwyddau. Mae'n cynnwys nodi pwyntiau cyswllt a/neu ddosbarthu a gofynion y gyrrwr neu'r cerbyd, er mwyn gallu cyfrifo'r costau. Mae'n cynnwys rheoli unrhyw ofynion arbennig ar gyfer gofalu am y llwyth wrth gludo a llwytho a dadlwytho'r cerbyd.

Mae'r safon hon yn berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â chreu costau ar gyfer trafnidiaeth cludo nwyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sefydlu pwynt cyswllt lle gellir cael manylion y gwaith trafnidiaeth cludo nwyddau
  2. cadarnhau’r manylion casglu ar gyfer trafnidiaeth cludo nwyddau a’r man dosbarthu i bennu’r pellter a chostau cysylltiedig eraill
  3. nodi a chadarnhau’r gofynion gweithredol ac unrhyw ofynion cyfyngol y cyflenwadau i gael eu symud, i gynorthwyo i greu costau
  4. nodi gofynion y gyrrwr a’r cerbyd ar gyfer cludo’r llwyth, yn unol â’r ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r codau ymarfer a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
  5. cael gwybodaeth am y cyfleusterau llwytho neu ddadlwytho ffisegol sydd ar gael yn y pwyntiau casglu neu ddosbarthu ar gyfer y llwyth a’r cerbyd
  6. nodi a chostio unrhyw gyfarpar arbenigol sy’n ofynnol ar gyfer llwytho a dadlwytho
  7. cael y wybodaeth berthnasol ar y materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn ymwneud â symud y cyflenwad
  8. cydgrynhoi a chofnodi’r wybodaeth a geir i baratoi’r costau
  9. creu, fformatio a chyfathrebu costau ar gyfer cyflenwadau i’r cwsmer
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ffynonellau a’r pwyntiau cyswllt ar gyfer gwybodaeth ar symud llwythi

  2. y math o lwyth a nodweddion y cyflenwad i gael ei symud, a sut mae’r rhain yn gallu effeithio ar gostau

  3. y dulliau gwahanol o drafnidiaeth cludo nwyddau a’u costau cysylltiedig
  4. y mathau o drafnidiaeth cludo nwyddau a ddefnyddir gan y sefydliad
  5. y mathau o gerbydau i gael eu defnyddio ar gyfer cario llwythi gwahanol a sut mae’r rhain yn effeithio ar gostau’r gwaith
  6. y math o gyfleusterau sydd yn ofynnol ar gyfer llwytho a dadlwytho’r cyflenwad
  7. y mathau o gyfarpar arbenigol a’u cost ar gyfer llwytho a dadlwytho’r cyflenwad
  8. y ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol, yn ymwneud â symud y cyflenwad
  9. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol yn ymwneud â thrafnidiaeth cludo nwyddau
  10. y gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â thrafnidiaeth cludo nwyddau
  11. sut i gofnodi gwybodaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  12. y cyfyngiadau a’r amodau yn ymwneud â symud llwythi
  13. sut i baratoi costau, y mathau gwahanol o gostau a’r hyn sy’n achosi amrywiadau mewn costau
  14. y telerau ac amodau sy’n effeithio ar gyfathrebu’r costau ar gyfer cludo llwythi i gwsmeriaid
  15. y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan y sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid
  16. y gofynion sefydliadol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chreu costau
  17. gofynion y cwsmer ar gyfer cyflenwad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Costau: cyfrifiadau o gost symud nwyddau trwy drafnidiaeth ffordd i’r gweithrediad logisteg

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth

Cyfathrebu: llafar, ysgrifenedig, electronig

Cwsmeriaid: mewnol ac allanol

Cyflenwad: nwyddau sydd yn cael eu cario gan gerbyd cludo a allai gynnwys cynwysyddion, hylifau/powdr, deunyddiau, da byw neu wastraff. Gall fod gan y nwyddau ofynion arbennig hefyd a/neu’n beryglus.

Deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer: oriau gyrrwr a rheoliadau trwydded, gofynion DPP gyrwyr, gofynion trwyddedu gweithredwr cerbyd, gweithdrefnau gweithredu amgylcheddol, gofynion llwyth peryglus, ADR


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL48

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

4134

Geiriau Allweddol

cost; trafnidiaeth; cludiant; pris; cyflenwad