Defnyddio cyfarpar i symud a throsglwyddo nwyddau

URN: SFL224
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Gyrru Cerbydau Nwyddau ar gyfer Gweithgareddau Gollwng mewn Sawl Man
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar i symud a throsglwyddo nwyddau i gerbyd ac oddi yno fel rhan o gasgliad neu ddosbarthiad.
Mae’n cynnwys dewis y cyfarpar perthnasol, sicrhau bod yr ardal waith yn ddiogel ar gyfer defnyddio’r cyfarpar, a’r broses o symud, trosglwyddo a gosod nwyddau i lawr yn ddiogel.
Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad i’r gyrrwr gael ei hyfforddi i weithredu’r cyfarpar, a meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gyrrwr sy’n dosbarthu i gwsmeriaid a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau o fewn gweithrediadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi’r nwyddau i gael eu symud a’u trosglwyddo i neu o’r cerbyd nwyddau a chadarnhau eu bod yn addas i’w symud

  2. cadarnhau’r lleoliad dynodedig ar gyfer casglu neu osod y nwyddau i lawr, yn unol â chyfarwyddiadau’r sefydliad a gofynion y cwsmer

  3. sicrhau bod yr ardal yn ddiogel ar gyfer symud a throsglwyddo nwyddau
  4. cadarnhau bod y cerbyd nwyddau yn ddiogel ac yn sefydlog wrth symud a throsglwyddo nwyddau
  5. nodi unrhyw beryglon ac anawsterau posibl yn symud a throsglwyddo nwyddau, eu datrys gyda chydweithwyr neu’r cwsmer
  6. gwirio bod y cyfarpar a ddefnyddiwyd i symud a throsglwyddo’r nwyddau wedi cael ei baratoi a’i fod yn weithredol yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
  7. gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth symud a throsglwyddo llwythi gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion llwyth
  8. cadarnhau bod yr hyfforddiant a’r trwyddedau perthnasol yn gyfredol ac wedi eu diweddaru ar gyfer y cyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio i symud a throsglwyddo’r nwyddau
  9. defnyddio cyfarpar i symud a throsglwyddo nwyddau i neu o’r cerbyd nwyddau yn ddiogel a heb golled, niwed neu halogiad
  10. gosod y nwyddau i lawr mewn safle addas ar y cerbyd nwyddau neu yn y lleoliad dynodedig
  11. symud a throsglwyddo nwyddau mewn ffordd sy’n lleihau unrhyw niwed posibl i’r amgylchedd cyfagos
  12. nodi unrhyw broblemau gyda math, maint neu ansawdd nwyddau, gweithredu ac adrodd ar y problemau, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  13. dychwelyd y cyfarpar a ddefnyddiwyd i symud a throsglwyddo’r nwyddau i’w safle gwreiddiol ar ôl ei ddefnyddio
  14. cofnodi’r gwaith a wnaed yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  15. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â defnyddio cyfarpar i symud a chludo nwyddau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodweddion mathau gwahanol o nwyddau sydd yn cael eu casglu neu eu dosbarthu gan eich sefydliad a sut mae angen iddynt gael eu symud a’u trosglwyddo

  2. y mathau o gyfarpar y gellir eu defnyddio i symud a throsglwyddo’r nwyddau i’r cerbyd nwyddau neu leoliad dynodedig

  3. y mathau o gyfarpar y gellir ei ddefnyddio ar y cyd â’r cerbyd nwyddau a ddewisir i gasglu neu ddosbarthu’r nwyddau
  4. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth symud a throsglwyddo nwyddau
  5. yr hyfforddiant a’r trwyddedau perthnasol sy’n ofynnol i weithredu cyfarpar
  6. sut i gynnal y cerbyd nwyddau mewn safle diogel a sefydlog wrth symud a throsglwyddo’r nwyddau
  7. y mathau o beryglon neu anawsterau y gellir dod ar eu traws wrth symud a throsglwyddo nwyddau a’r camau gofynnol i’w cymryd i’w datrys neu adrodd arnynt, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
  8. y dulliau ar gyfer symud, trosglwyddo a gosod nwyddau i lawr mewn perthynas â’r math o gyfarpar a ddefnyddir, nodweddion y llwyth a gofynion y cwsmer
  9. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â nwyddau anghywir, coll neu wedi eu niweidio, yn cynnwys diffyg nwyddau
  10. pwysigrwydd dychwelyd cyfarpar a ddefnyddir i symud a throsglwyddo’r nwyddau i’r safle gwreiddiol yn barod ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol
  11. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
  12. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â defnyddio cyfarpar i symud, trosglwyddo a gosod nwyddau i lawr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

  • ​Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
  • Cwsmeriaid: mewnol, allanol
  • Cerbyd nwyddau: y cerbyd masnachol yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan mae wedi ei gysylltu a chyfarpar ategol arall
  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau, ac ati
  • Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Cyfarpar: offer, taclau, cyfarpar codi neu dipio ar y cerbyd, lifftiau cefn, tryciau codi, cludwyr, craeniau, rampiau, mecanyddol/llaw
  • Peryglon: maint, pwysau, disgrifiad, niwed, halogiad
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig
  • Safle addas: diogel, perthnasol i’r archeb ddosbarthu, i fodloni gofynion y cwsmer

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL224

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

nwyddau; cerbyd nwyddau; cyfarpar; casglu; dosbarthu