Dadlwytho’r tancer

URN: SFL208
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dadlwytho’r tancer, a allai olygu’r cyfan neu ran o lwyth, fel rhan o ddyletswyddau gyrru. Mae’n cynnwys dyletswyddau’r gyrrwr i gadarnhau bod y tancer yn dal yn ddiogel ac yn gyfreithiol wrth ddadlwytho ac ar ôl hynny.

Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho, a phrawf o weithdrefnau dosbarthu.

Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer gyrwyr tanceri a’r rheiny sy’n gyfrifol am danceri mewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi cydweithiwr neu gwsmer sy’n gyfrifol am dderbyn y llwyth

  2. sicrhau bod yr ardal ddadlwytho yn addas ac yn ddiogel ar gyfer derbyn y llwyth

  3. symud y tancer i mewn i safle addas a diogel ar gyfer dadlwytho
  4. cadarnhau bod y tancer wedi ei baratoi ac yn barod i’w ddadlwytho
  5. gwirio bod y maint cywir o’r llwyth i gael ei ddadlwytho’n cael ei nodi
  6. dewis a defnyddio’r cyfarpar cywir ar gyfer dadlwytho
  7. gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth ddadlwytho’r tancer gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion llwyth
  8. dilyn cyfarwyddiadau dosbarthu i ddadlwytho’r tancer, gan sicrhau bod y llwyth yn parhau’n rhydd rhag halogiad
  9. dilyn cyfarwyddiadau gweithredu cyfarpar i sicrhau nad oes unrhyw ollyngiadau wrth ddadlwytho
  10. monitro dadlwytho’r tancer a chadarnhau ei fod wedi cael ei ddadlwytho yn unol â chyfarwyddiadau dadlwytho
  11. nodi a gweithredu pan fydd materion wrth ddadlwytho, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  12. cwblhau a storio cofnodion prawf dosbarthu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  13. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho’r tancer
  14. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho’r tancer

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gadarnhau bod cyfarwyddiadau dadlwytho’n cael eu dilyn wrth ddadlwytho’r tancer
  2. nodweddion y llwyth i gael ei ddadlwytho, yn cynnwys gofynion gwahanol yn ymwneud â chynnyrch penodol
  3. y mathau o ragofalon i’w cymryd wrth ddadlwytho’r tancer
  4. sut i atal y llwyth rhag cael ei halogi wrth ddadlwytho
  5. y gofynion sefydliadol a gofynion y cwsmer ar gyfer dadlwytho
  6. sut dylid paratoi’r tancer ar gyfer dadlwytho
  7. sut i osod y tancer yn ofalus ar gyfer dadlwytho
  8. y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid eu defnyddio wrth ddadlwytho
  9. sut i fonitro’r dadlwytho
  10. y math o faterion a allai ddigwydd wrth ddadlwytho’r tancer, a’r camau y dylid eu cymryd
  11. y systemau prawf dosbarthu gwahanol a ddefnyddir yn eich sefydliad
  12. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho’r tancer

  13. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho’r tancer


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

  • Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

  • Cwsmeriaid: mewnol, allanol

  • Cyfarwyddiadau: ysgrifenedig, llafar

  • Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystystgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol

  • Llwyth: powdrau, deunyddiau gronynnol, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw’n fwyd, peryglus, gwastraff

  • Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau yn ôl, troi

  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch i’r llygaid, menig, esgidiau uchel

  • Rhagofalon: defnydd cywir o PPE, atal gollyngiadau, llwch, anweddau, gwrthdrawiadau

  • Prawf dosbarthu: dogfennau papur neu electronig (e.e. terfynellau llaw)

  • Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tancer, cyfarpar ategol

  • Dadlwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL209

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

tancer; dadlwytho; hylif; powdr; nwyon