Monitro cludo cyflenwadau

URN: SFL132
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol,Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro cludo cyflenwadau. Mae’n cynnwys cydgrynhoi a dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud â chludo cyflenwadau, darparu canlyniadau’r dadansoddiad, a gwneud argymhellion. Mae hefyd yn cynnwys nodi unrhyw broblemau yn ymwneud â chludo cyflenwadau.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi sydd yn gweithio mewn swyddi prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth sydd yn gyfrifol am fonitro cyflenwadau. Gallai’r safon fod yn berthnasol ar gyfer y rheiny sy’n gofalu am nifer o staff ac â chyfrifoldeb rheolwr llinell.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwirio’r wybodaeth berthnasol am y cyflenwadau sydd yn cael eu cludo
  2. cadarnhau’r wybodaeth am y mathau a’r dulliau cludo ar gyfer y cyflenwadau sydd yn cael eu cludo
  3. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro cludo cyflenwadau
  4. monitro cludo cyflenwadau gan ddefnyddio’r systemau neu’r dyfeisiadau olrhain perthnasol
  5. cydgrynhoi a pharatoi data ar gludo cyflenwadau
  6. dadansoddi data ar gludo cyflenwadau
  7. darparu canlyniadau’r monitro a’r dadansoddi ar gyfer y cydweithwyr perthnasol
  8. gwneud argymhellion i wella cludo cyflenwadau 
  9. cymryd y camau gofynnol i ddatrys unrhyw broblemau yn cludo cyflenwadau
  10. cysylltu â’r cydweithwyr neu bartner perthnasol y gadwyn gyflenwi, os na ellir datrys y problemau a nodir
  11. cyfathrebu gyda chydweithwyr a’r gadwyn gyflenwi trwy gydol y broses fonitro 
  12.  hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw oedi, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i oedi 
  13.  cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a’r gofynion gweithredu perthnasol yn ymwneud â monitro cludo cyflenwadau  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y ffynonellau gwybodaeth a’r dogfennau perthnasol ar gyfer y cyflenwadau sydd yn cael eu cludo a’r mathau a’r dulliau cludo
  2. y dulliau a’r gweithdrefnau cludo a ddefnyddir yn eich sefydliad
  3. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro cludo cyflenwadau
  4. sut i fonitro cludo cyflenwadau gan ddefnyddio systemau olrhain a thracio 

  5. sut i gydgrynhoi a pharatoi data am fonitro cludo cyflenwadau

  6. sut i ddadansoddi monitro data ar gludo cyflenwadau
  7. sut i gyflwyno canlyniadau’r broses fonitro i gydweithwyr
  8. y ffynonellau gwybodaeth am brosesau’r gadwyn gyflenwi yn eich sefydliad
  9. y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth gludo cyflenwadau a sut i ddatrys y rhain
  10. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a’r gadwyn gyflenwi trwy gydol y broses fonitro, a sut gellir cyflawni hyn 
  11. pwysigrwydd cyfathrebu unrhyw oedi i’r cwsmer mewn ffordd ragweithiol, gan ganiatáu gymaint o amser â phosibl i ymateb i’r problemau
  12. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a’r gofynion gweithredu perthnasol yn ymwneud â monitro cludo cyflenwadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau cludo, arferion gwaith, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau’r diwydiant

Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu cyflwyno neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Trafnidiaeth: symud cyflenwadau neu adnoddau yn fewnol neu’n allanol yn eich sefydliad eich hun, yn genedlaethol neu rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL132

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

1241

Geiriau Allweddol

monitro; trafnidiaeth; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi