Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol a thechnegol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd

URN: SFJPG1
Sectorau Busnes (Suites): Llysoedd, Tribiwnlysoedd ac Erlyniadau
Datblygwyd gan: Skills for Justice
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer unigolion sy'n darparu cyngor ac arweiniad arbenigol a thechnegol i bobl eraill ar faterion technegol yn gysylltiedig â gwaith, yn unol â gofynion a gweithdrefnau sefydliadol. Bydd disgwyl i chi ddarparu cyngor ac arweiniad technegol arbenigol i bobl eraill a allai fod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac i gydweithwyr a rhanddeiliaid. Bydd gofyn i chi nodi cyfleoedd addas ar gyfer cynnig cyngor ac arweiniad technegol arbenigol ac adolygu eich dulliau'n rheolaidd, er mwyn i chi allu addasu'ch dull pan fydd angen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cynnal eich gwybodaeth a’ch cymhwysedd o ran llysoedd a thribiwnlysoedd  2. bod yn ymwybodol o’r ffynonellau gwybodaeth ac arweiniad sydd ar gael 3. dadansoddi a dehongli ffynonellau gwybodaeth ac arweiniad 4. cyflwyno gwybodaeth ac arweiniad i bobl eraill 5. cynnal asesiad risg i nodi atebion 6. defnyddio’r adnoddau, yr arweiniad polisi a’r ddeddfwriaeth briodol i ddatrys problemau wrth iddynt godi 7. rhagweld problemau, a chymryd camau priodol i ddelio â nhw, yn unol â gofynion sefydliadol 8. rhoi gwybodaeth ddilys a chyfoes, cyngor ac arweiniad arbenigol a thechnegol i gydweithwyr a rhanddeiliaid, yn unol â’u hanghenion a’u gofynion sefydliadol  9. cadarnhau bod y wybodaeth a dderbynnir yn bodloni anghenion yr unigolion 10. cyfeirio unigolion at ffynonellau gwybodaeth a chyngor eraill pan fydd angen 11. ymchwilio i gŵynion, yn unol â gofynion sefydliadol 12. ymateb i gŵynion, yn unol â gofynion sefydliadol 13. cymryd camau i ddatrys neu fynd i’r afael â chwynion, yn unol â gofynion sefydliadol 14. dewis y dull cyfathrebu priodol wrth ddarparu cyngor arbenigol a thechnegol 15. hyfforddi cydweithwyr a darparu cymorth i’w helpu i gynnal eu gwybodaeth a’u cymhwysedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich rôl, eich cyfrifoldebau a’ch cymhwysedd, ac i bwy i ofyn am gymorth a chyngor pan fydd angen  2. deddfwriaeth, arweiniad a gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i rôl y swydd  3. amrywiaeth y wybodaeth a sut i ddarparu gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau 4. sut i ddehongli gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau y gellir ei defnyddio wrth roi cyngor ac arweiniad arbenigol/technegol  5. sut i nodi cyfleoedd ar gyfer rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol/technegol 6. sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer darparu cyngor ac arweiniad arbenigol/technegol 7. sut i sicrhau bod gwybodaeth yn gyfoes, yn ddilys ac yn ddibynadwy 8. sut i rannu eich gwybodaeth a’ch profiad gyda phobl eraill 9. y technegau y gellir eu defnyddio ar gyfer darparu neu gyflwyno cyngor ac arweiniad arbenigol/technegol 10. pwysigrwydd cynnal cyfrinachedd a sut i wneud hyn 11. systemau a gweithdrefnau cwyno 12. dulliau cyfathrebu a sut i’w haddasu i fodloni anghenion unigol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Cyfiawnder

URN gwreiddiol

SFJPG1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Llysoedd

Cod SOC

4161

Geiriau Allweddol

Cyngor arbenigol, amgylchedd llys, technegau cyngor ac arweiniad